Sut mae gwneud hyn?
Yn Outlook, cliciwch ar 'E-bost newydd', yna Neges, yna Llofnod, dewiswch 'Llofnodion...' yna 'Rhagosod'. Yna ychwanegwch ragenwau at eich llofnod diofyn fel a ganlyn cyn clicio 'Iawn' i gadarnhau gwelliant:
Jo Bloggs
Rhagenwau:
Teitl y Swydd
Gwasanaeth Perthnasol
Cyngor Bro Morgannwg
Sicrhewch wrth olygu eich llofnod bod y llofnod diofyn ar gyfer negeseuon ac atebion newydd (i'r dde o'r llofnod rydych chi wedi tynnu sylw ato i'w olygu) yn ddiofyn yn hytrach na chorfforaethol. Gweler yr enghraifft isod.
Drwy ddefnyddio'r hyperddolen Rhagenwau, mae'n caniatáu i bobl nad ydynt yn siŵr pam yr ydym yn darparu'r wybodaeth hon glicio ar y ddolen i ddarllen esboniad ar wefan Stonewall.
Gallwch hefyd ddewis peidio â defnyddio rhagenwau. Os felly, gallwch ychwanegu at eich llofnod yn lle hynny:
No pronouns – please use my name / Peidiwch â defnyddio rhagenw, defnyddiwch fy enw os gwelwch yn dda.
Cofiwch fod angen i chi ei wneud yn Gymraeg a Saesneg gan fod ein llofnodion yn ddwyieithog. Gallwch ddewis y rhagenwau Cymraeg a Saesneg priodol o'r tabl isod. Rhowch wybod i ni os oes eraill yr ydych am eu defnyddio fel y gallwn eu cyfieithu i'r Gymraeg. Rydym yn aros am gyngor cenedlaethol pellach ar sut y caiff rhagenwau a ddefnyddir yn llai aml eu defnyddio yn Gymraeg.
Gallwch ddewis y rhagenwau Saesneg a Chymraeg priodol o'r rhestr isod.
Rhowch wybod i ni os oes eraill yr ydych am eu defnyddio fel y gallwn eu cyfieithu i'r Gymraeg. Rydym yn aros am gyngor cenedlaethol pellach ar sut mae rhagenwau a ddefnyddir yn llai aml yn cael eu trin yn y Gymraeg.