Vale Care Home sleighs competition in Church Christmas Challenge

 

Christmas Nativity Scene

Bydd Cartref Gofal ym Mro Morgannwg yn dathlu ag uchelwydd a gwin ar ôl ennill cystadleuaeth Nadolig Eglwys y Tabernacl ym Mhenarth.

Jinglodd cartref gofal Tŷ Dewi Sant yr holl ffordd i'r safle cyntaf am eu golygfa’r geni, a wnaed yn gyfan gwbl allan o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a’u hailddefnyddio.

Nododd rheolau'r gystadleuaeth y dylai’r ceisiadau anelu at gynnwys cynifer o elfennau a chymeriadau o stori'r geni â phosib.

Ar ôl colli allan o drwch blewyn y llynedd, roedd staff a thrigolion yn benderfynol o ddod i'r brig yn 2022, felly aeth nifer o drigolion, gan gynnwys Kate O'Brien, Diane Morcombe, Jenette Margetts, Barbara Bennett a Christopher Powell a llond llaw o staff, Sam Maginn, Joanne Huish a Gemma Cornelius, dan arweiniad Samantha Walker, i weithdy'r corachod i ddechrau ar gynnig eleni.

Mae’r olygfa fuddugol yn cynnwys dynion doeth wedi'u gwneud o diwbiau cardbord rholiau tŷ bach, boncyffion pren wedi'u gwneud o gyrc poteli gwin, a tho wedi'i wneud o hambwrdd wyau tra bod yr holl beth wedi'i oleuo gan oleuadau Nadolig.

Mae'r fuddugoliaeth wir wedi rhoi ymdeimlad o gyflawniad a balchder i'r staff a'r trigolion yn yr hyn a gynhyrchwyd ganddynt.

Christmas Nativity Winners

Nod y gystadleuaeth oedd i bobl ddysgu'r stori sydd y tu ôl i'r ŵyl rydyn ni’n ei dathlu.

Cartref gofal preswyl yw Tŷ Dewi Sant, sy'n cynnig cefnogaeth hirdymor a seibiant i bobl hŷn fregus a phobl hŷn â dementia. Mae'r cartref yn darparu amgylchedd gofalgar, cyfforddus a diogel ac yn cefnogi ac yn trin y preswylwyr fel unigolion.

O 5 Ionawr 2023 tan ddiwedd Mawrth 2023 mae Eglwys y Tabernacl yn cynnig croeso cynnes a bydd ar agor i chi ddod draw i sgwrsio, chwarae gemau bwrdd, defnyddio'r wi-fi am ddim, darllen neu wneud eich peth eich hun mewn lle cynnes. Mae yna hefyd nifer o fannau eraill yn cynnig croeso cynnes yn y Fro y gaeaf hwn – i weld pa lefydd sy’n cymryd rhan ewch i adran Mannau Cynnes gwefan y Cyngor.