Staffnet+ >
Maer pleidleisio wedi agor ar gyfer Categori Gwobr Arwr yr Ysgol

Mae'r pleidleisio wedi agor ar gyfer Categori Gwobr Arwr yr Ysgol
Wrth i'r Gwobrau Staff agosáu, rydym yn falch o gyhoeddi manylion diweddaraf y digwyddiad.
Daeth yr enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Staff i ben ddydd Gwener 24 Mehefin - diolch i bawb a enwebodd gydweithwyr. Rydym wedi cael 194 o enwebiadau ar gyfer gwobrau 2022 sy'n torri record!
Mae'r nifer o enwebeion bellach wedi dechrau cael eu torri lawr gan ein paneli gwerthuso i ond ychydig o ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer pob un o'r 13 categori gwobrau.
Gyda gwyliau Haf yr Ysgol ar y gorwel, yr 18 enwebai ar gyfer categori Arwr yr Ysgol oedd y cyntaf i gael eu cyflwyno i’r panel gwerthuso.
Nod categori Arwr yr Ysgol yw adnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w Ysgol. Gyda hyn mewn golwg, mae'r panel bellach wedi penderfynu ar 5 enwebai:
- Tracey Clee o Ysgol Gynradd Tregatwg
- Brenda Cleak o St. Richard Gwyn
- Jeffrey Schembri o Ysgol Gynradd Oakfield
- Hannah Cogbill o Ysgol Gynradd Tregatwg
- Wyn Gower o St. Richard Gwyn
Llongyfarchiadau i'n hymgeiswyr ar y rhestr fer gyntaf!
Mae'r pleidleisio ar gyfer grŵp Arwr yr Ysgol bellach wedi agor. A fyddech cystal â chymryd amser i adolygu'r enwebiadau a phleidleisio.
Sylwch fod pleidleisio yn agored i bob aelod o staff, nid dim ond staff yr Ysgol!
Pleidleisiwch dros Wobr Arwr yr Ysgol
Bydd y 12 categori dyfarnu sy'n weddill yn cael eu hadolygu gan y paneli gwerthuso rhwng 18 a 29 Gorffennaf a bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.