Staffnet+ >
Taith Gerdded Elusennol Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro
Taith Gerdded Elusennol Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro wedi gosod her i'w hunain i gwblhau 2,000,000 o gamau rhwng 13-26 Chwefror.
Byddan nhw'n cerdded y llwybr 1000 milltir yn rhithwir o Lands End i John O'Groats, gyda tharged £1,000 i’w godi - £1 am bob milltir!
Mae'r tîm yn gobeithio codi arian ac ymwybyddiaeth o Ymddiriedolaeth Trussell sy'n cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, yn darparu bwyd a chefnogaeth brys i bobl mewn argyfwng, ac yn ymgyrchu dros newid i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd.
Mae hefyd yn gyfle gwych i annog lles, a'n hysgogi - gan fod angen yr anogaeth honno ar rai ohonom (nid pawb) - i gynyddu ein camau dyddiol.
Mae GTI y Fro’n codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Trussell (justgiving.com)
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalen Staffnet+.