Staffnet+ >
Gorffennaf yw Mis Balchder Anabledd
Gorffennaf yw Mis Balchder Anabledd

Dyma'r Faner Balchder Anabledd, a grëwyd gan Ann Magill, menyw anabl.
-
Mae'r cefndir du yn cynrychioli protest yn y gymuned yn ogystal â galaru am bobl anabl sydd wedi bod yn destun trais abl
-
Mae'r pum lliw yn cynrychioli'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau ar draws yr ystod o anableddau
-
Mae'r band o stribedi cyfochrog yn cynrychioli'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl
-
Ailgynlluniwyd y faner yn 2021 gyda mwy o arlliwiau tawel i ganiatáu i'r faner fod yn fwy hygyrch a chynhwysol
Mae Mis Balchder Anabledd yn ffordd o ddathlu amrywiaeth a gwahaniaeth ymhlith y gymuned anabl, gan gynnwys pob anabledd a phrofiad.
I lawer o bobl, mae Mis Balchder Anabledd yn ffordd o amlygu'r rhwystrau a'r gwahaniaethu sy'n wynebu pobl anabl.
Rydym yn gweithio i sefydlu rhwydwaith anabledd staff. Fe wnaethom gyfarfod eto ym mis Gorffennaf i drafod symud ymlaen gyda'r grŵp - yr enw, cylch gorchwyl, a'r strwythur. Am fwy o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â Colin Davies.
Am fwy o wybodaeth am Fis Balchder Anabledd ewch i wefan y Cyflogwyr Cynhwysol.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel, pleserus a chynhwysol i bobl weithio ynddo ac i sicrhau bod ardal Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar.
Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.