Dirprwy reolwr cartref preswyl yn ymddeol ar ôl 21 mlynedd o wasanaeth
Mae dirprwy reolwr cartref Southway Residential, Wendy Page yn ymddeol ar 21 Gorffennaf ar ôl dros ddwy ddegawd o wasanaeth ymroddedig.
Dywedodd yr Uwch Reolwr, Colette Rees: "Mae Wendy wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu staff a chreu ymdeimlad cyffredin o falchder a chyflawniad yn y tîm.
"Mae Wendy nid yn unig wedi bod yn arweinydd effeithiol ond yn un creadigol a ddaeth â hwyl i'r gweithle, gan uno'r tîm."

Dywedodd Wendy fod 21 o flynyddoedd wedi mynd yn gyflym am ei bod wedi bod mor hapus yn gweithio yn Southway ochr yn ochr â thîm o staff cymwys ac ymroddedig.
Mae hi wedi penderfynu ymddeol yn gynnar a gweithio'n rhan-amser mewn rôl wahanol i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett: "Mae Wendy wedi bod yn gaffaeliad i'r tîm yng nghartref Southway Residential ac wedi bod yn hanfodol i gyd-reoli'r staff anhunanol sy'n gofalu am oedolion bregus.
"Rydyn ni'n drist i’w gweld hi'n gadael ac yn dymuno'r gorau iddi gyda'i hymddeoliad ac unrhyw anturiaethau yn y dyfodol."
Hoffai tîm rheoli preswyl ehangach y Cyngor, tîm staff Southway, y preswylwyr y mae Wendy yn eu hystyried fel teulu estynedig a phawb yng Nghyngor Bro Morgannwg ddymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Mae Southway Residential Home yng nghanol y Bont-faen, ac yn gofalu am breswylwyr dros 60 oed a'r rhai sy'n byw gyda dementia.