Cost of Living Support Icon

Cartref Preswyl Southway

Townmill Road, Y Bont-Faen, CF71 7BE

  • 01446 772265
 

Mae Southway yn gartref preswyl deulawr pwrpasol, wedi'i leoli yng nghanol y Bont-faen, yn rhan orllewinol wledig Bro Morgannwg, rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae o fewn pellter cerdded byr i ganol y dref leol, sydd â gardd berlysiau, siopau hynod, tafarndai a bwytai. 

 

Cyfleusterau

Mae gan Southway 30 o ystafelloedd gwely sengl, defnyddir un o'r ystafelloedd i ddarparu gwasanaeth seibiant, ac mae un ystafell ar gael ar gyfer lleoliadau brys.

 

Gall y cartref ddarparu llety, gofal a chymorth i:

  • Bobl hŷn agored i niwed dros 60 oed 

  • Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Dementia

  • Pobl hŷn dros 60 oed sydd ag Anabledd Dysgu

  • Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Salwch Meddwl  

 

 

Cefnogaeth a gwasanaethau

Mae'r gwasanaeth yn medru darparu cefnogaeth gyda:

  • Roi meddyginiaeth bresgripsiwn

  • Gofal personol

  • Chynnal diddordebau personol a datblygu rhai newydd

  • Chael mynediad i weithgareddau hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol

  • Datblygu a chynnal perthynas

  • Cynnal a chynyddu annibyniaeth

  • Chymorth i sicrhau bod anghenion ysbrydol a diwylliannol yn cael eu diwallu.

 

Cyfleusterau Ychwanegol

Nid yw Southway yn darparu gofal nyrsio, ond mae gan breswylwyr fynediad i:

  • Wasanaethau iechyd cymunedol fel Meddyg Teulu

  • Therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd

  • Ddeintydd

  • Optegydd

  • Chiropodydd

  • Nyrs Ardal 

  • Wasanaeth Cymorth Seiciatrig Cymunedol a Dementia

 
Gweld y Datganiad o Ddiben llawn