Cost of Living Support Icon

Gofal a Chymorth

Mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau rheoli ein bywydau a byw mor annibynnol â phosibl, ond weithiau mae angen cymorth ychwanegol arnom i wneud hyn.

 

Rydym yn darparu ac yn trefnu gwasanaethau gofal i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu amddiffyniad, gan gynnwys pobl sy'n gadael yr ysbyty a gofalwyr mewn sefyllfaoedd anodd. Efallai y byddwn yn darparu unrhyw un o'r canlynol i'ch helpu i fyw'n fwy annibynnol:

  • gwybodaeth a chyngor

  • gweithgareddau a gefnogir mewn canolfannau dydd a lleoliadau cymunedol eraill

  • cymorth i'ch galluogi i gael mynediad at hyfforddiant neu gyflogaeth

  • seibiannau byr i ofalwyr

  • addasiadau yn y cartref neu offer arbennig i helpu pobl â salwch neu anabledd gyda'u gweithgareddau bob dydd

  • offer cyfathrebu i fonitro eich diogelwch a'ch galluogi i alw am help neu roi

  • llety â chymorth neu ofal cartref preswyl neu nyrsio i chi

  • gofal a chymorth personol a ddarperir yn eich cartref

 

A oes gennyf hawl i gael gwasanaethau?

Os ydych yn oedolyn ag anghenion gofal cymdeithasol a allai effeithio ar eich iechyd, eich diogelwch neu'ch annibyniaeth, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch.  Mae gennym ddyletswydd i asesu eich anghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu mewn ffordd sydd orau i chi.

 

Mae  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith sy'n rhoi mwy o lais i chi am y gofal a'r cymorth a gewch.  Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt.  

 

Mae'r broses asesu ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Mae'n ystyried cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

 

Asesu

Fideos

Cytunodd rhai o'r bobl sy'n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol i adrodd eu stori ar fideo:

 

S15 41702 Barry Extra Care

 

S15 41704 K9 Plus One 

 

S15 41703 Day Centre

 

 

 


Gofalu am eich Lles