Cost of Living Support Icon

Gofalu am eich Lles

Mae'n bwysig gofalu am eich lles a chadw mor iach â phosibl. Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i'ch helpu i gadw ar ben pethau.

 

Gellir diffinio lles yn ôl y gwahanol feysydd ym mywyd person, er enghraifft: 

  • Iechyd corfforol a meddwl a lles emosiynol

  • Diogelu rhag cam-drin ac esgeulustod 

  • Addysg, hyfforddiant a hamdden

  • Perthnasau domestig, teuluol a phersonol

  • Cyfraniad a wneir i gymdeithas 

  • Sicrhau hawliau

  • Lles cymdeithasol ac economaidd

  • Addasrwydd llety byw

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014


Fel awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd i roi'r canlynol i'n trigolion:

 

• Gwybodaeth a chyngor defnyddiol, a 

• Chymorth addas yn ôl yr angen.

 

Yn ogystal â chynnig mwy o wybodaeth a chyngor, y nod yw grymuso trigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a’u lles eu hunain. 


A phan fydd angen mwy o gymorth ar drigolion, rhaid i ni eu cynnwys wrth gynllunio cynlluniau cymorth ac wrth ddarparu gwasanaethau gofal.

 

Dewis Cymru

Chwiliwch Dewis Cymru i ddod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a cenedlaethol a all eich helpu. Gallwch chwilio drwy ddefnyddio eich cod post am wasanaethau a chymorth yn eich ardal neu chwilio am wasanaethau penodol:

 

Dewis Cymru Logo Welsh

  

  • Taflenni Gofal Cymdeithasol

    Gallwch weld nifer o daflenni am wasanaethau gofal cymdeithasol, yn ogystal â chyfeirlyfr o wasanaethau yma:    

  • Cyfleoedd Cymdeithasol i Oedolion a Phobl Hŷn 

    Mae llawer o weithgareddau cymdeithasol y gallwch gymryd rhan ynddynt, yn eich ardal leol:

     

    • Celf a chrefft
    • Chwaraeon
    • Dosbarthiadau ymarfer corff
    • Corau
    • Clybiau cyfeillgarwch
    • Clybiau llyfrau
    • Clybiau cyfeillio a chinio
    • Gwirfoddoli

    Dysgwch fwy drwy fynd i’r gwefannau canlynol:  

     

  • Mynd Allan 

    Er mwyn cynorthwyo pobl i fanteisio ar gyfleoedd i fyw'n annibynnol sydd ar gael yn eu cymunedau lleol a thu hwnt mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Dyma rai o'r gwasanaethau sy'n cynorthwyo'r bobl hynny sydd â namau oherwydd salwch, anabledd neu henaint.

    Trafnidiaeth

    Mae ein tudalen ar drafnidiaeth yn cynnig gwybodaeth am Drafnidiaeth Gymunedol fel VEST a Greenlinks, yn ogystal â Theithio Consesiynol a Chludiant i'r Ysbyty:     

    Diogelwch Personol  

    Toiledau Cyhoeddus  

  • Gwasanaethau Larwm Teleofal

    Mae Teleofal yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a dyfeisiau sy’n defnyddio technoleg i alluogi pobl sy’n agored i niwed i fyw yn fwy annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain.

  • Gofal yn eich Cartref eich hun 

    Mae cymorth ar gael i helpu pobl i fyw'n ddiogel yn eu cartref eu hunain. Gall gofalwr ymweld â chi i helpu gyda thasgau dyddiol, siopa ac ati. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol.  


    Mae’r rhestr o Ddarparwyr Gofal Cymeradwy yn rhoi gwybodaeth am ddarparwyr gofal cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac sydd wedi’u cymeradwyo neu eu hachredu i ddarparu gwasanaethau gofal ar ran Cyngor Caerdydd.   

    Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol:

    Gwasanaethau Larwm Teleofal

    Mae Teleofal yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a dyfeisiau sy’n defnyddio technoleg i alluogi pobl sy’n agored i niwed i fyw yn fwy annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain.

    Rheoli Prydau

    Mae'r archfarchnadoedd mawr i gyd yn cynnig gwasanaeth danfon i'r cartref. Gall gwerthwyr llysiau, gwerthwyr pysgod a chigyddion lleol hefyd ddanfon i'ch drws ffrynt. Gall cwmnïau eraill fel Wiltshire Farm Foods ddanfon prydau parod, ffres neu wedi'u rhewi, i'ch drws:

    Os ydych yn byw ym Mhenarth, Dinas Powys, Gwenfô neu Sili, gallwch ddefnyddio gwasanaeth Pryd ar Glud Caerdydd:

  • Cartrefi Preswyl

    Mae nifer o gartrefi wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg. 

    Mae dewis hefyd o ddau gartref ym Mro Morgannwg sy'n cael eu staffio gan yr awdurdod lleol. Mae'r cartrefi hyn yn cynnig llety i bobl hŷn fregus. Mae'r cartrefi wedi'u lleoli yn y Bont-faen a'r Barri:      

  • Cymorth Tai

    Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai

    Nod y rhaglen Cefnogi Pobl yw cefnogi pobl i gynyddu a chynnal eu hannibyniaeth. Ymhlith pethau eraill, mae’n cynnig gwasanaeth cymorth yn ôl yr angen, a ddarperir yng nghartref tenantiaid a pherchnogion cartrefi:

    Gwasanaethau Galw Heibio Cymorth Tenantiaeth y Fro 

    Mae cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn helpu pobl i gael y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu neu gynnal eu gallu i fyw'n annibynnol. Mae nifer o sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ledled y Fro:   

    Mae Darparwyr Cymdeithasau Tai yn cynnig eu cymorth eu hunain i denantiaid. Gallwch weld rhestr o bartneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yma (gwaelod y dudalen):

    Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro 

    Mae ein Gwasanaeth Mân Drwsio i Ofalwyr yn cefnogi gofalwyr a’r bobl sy'n cael gofal ganddyn nhw i drwsio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefu gan eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl ac yn fwy diogel, yn ddiogel rhag tresmasu, yn gynnes ac yn glyd.  Ffoniwch 02920 473337:

    Nyth - Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru

    Mae'r cynllun yn helpu i leihau nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi'n gynnes a’u helpu i ymdopi â biliau ynni uchel:

  • Cyngor Ariannol

    Gall unrhyw denant y Cyngor sydd angen cymorth gyda materion ariannol gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i weld a all ei helpu:

    Mae gan Age Connects Caerdydd a’r Fro Wasanaeth Hawliau Lles, sy'n cynnig cyngor am ddim ar fudd-daliadau ac sy'n gallu cynorthwyo pobl 60+ oed sy'n byw ym Mro Morgannwg i lenwi ffurflenni budd-daliadau yn ystod ymweliadau cartref:

    Mae Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, eu problemau ariannol a’u problemau eraill drwy roi cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim. Mae ganddynt sesiynau allgymorth ledled y Fro neu gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol:

  • Cyfleoedd Dydd

    Mae cyfleoedd dydd ar gael ym Mro Morgannwg mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau ar gyfer pobl hŷn a all fyw gydag eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd neu broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia.  

    Gall gwasanaethau dydd wella gallu parhaus unigolyn i fyw'n annibynnol gartref, drwy gynnig ysgogiad cymdeithasol, corfforol a meddyliol i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu gyda theulu ac sy’n teimlo wedi’u hallgáu’n gymdeithasol Mae gofalwyr anffurfiol hefyd yn elwa'n aruthrol drwy gymryd seibiant o'u rôl gofalu:

    New Horizons - gwasanaethau dydd i bobl sydd ag anableddau corfforol

    Rydym yn darparu gwasanaeth dydd i bobl ag anabledd corfforol parhaol/sylweddol, sy'n 18 -65 oed ac sy’n byw ym Mro Morgannwg. Mae'r Gwasanaeth Dydd yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol:

    Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu

    Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu, sydd hefyd ag anghenion cymhleth.  

    Rydym yn gweithio o’r Barri ac yn cynnig cyfleoedd dydd o'n dwy ganolfan, yn ogystal â lleoliadau cymunedol amrywiol, yn gwasanaethu dinasyddion ledled y Fro. 

  • Cymorth mewn Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol 

    Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau

    Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol.  Mae’r gwasanaeth hwn yn delio â sefyllfaoedd o argyfwng na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf. 

    • 029 20 788570