Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Materion Lles

Un Pwynt Mynediad ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Lles ym Mro Morgannwg.

 

Cyfeiriadur Gwasanaeth

 

Gwasanaethau Yn Ystod y Dydd / Brysbennu Cymunedol BIP Caerdydd a'r Fro

  • 029 2044 4501 
    • Cysylltiadau ac atgyfeiriadau ar gyfer timau nyrsys y bledren, y coluddyn a chlwyfau

    • Archebu offer i gleifion o'r Storfa Offer ar y Cyde

    • Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro

  • 01446 704138 

 

Gofal Cymdeithasol Oedolion Cyngor y Fro

  • Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gofal cymdeithasol (Derbyn ac Asesu)

  • Cysylltiadau ar gyfer ein swyddogion lles ac ymweliadau lles

  • Ymholiadau am wasanaethau gofal mwy hirdymor, megis lleoliadau cartrefi gofal

  • Gwasanaethau teleofal i'r Fro (TeleF/TeleF+)

Gofal Cymdeithasol Oedolion Cyngor y Fro

 

Trydydd Sector

  • Swyddog Cyswllt Cymunedol / Brocer Trydydd Sector Age Connects

  • Swyddog Cyswllt Cymunedol (SCC) Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg

  • Mynediad i drydydd sector arbenigol ehangach drwy'r Swyddogion Cyswllt Cymunedol

 

Gwasanaethau Trydydd Sector ac Arbenigol

 

Swyddog Cyswllt Cymunedol

Cysylltu dinasyddion â chymorth cymunedol, elusennol a gwirfoddol ar draws y rhanbarth.

 

Mae Swyddog Cyswllt Cymunedol GGM yn cefnogi teuluoedd, gofalwyr, oedolion ifanc a’r rheiny sydd â chyflyrau meddygol hirdymor o 18 i 60 oed. Mae Age Connects hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cyswllt Cymunedol, a elwir hefyd yn Brocer Trydydd Sector, ar gyfer pobl hŷn.

 

  • Brocer GGM 01446 741706

  • Brocer Age Connects (ar gael drwy Wasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro 01446 704138)

 

Mae rôl y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn wasanaeth siop un stop, sy'n gweithio'n agos gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl yn y Fro. Mae'r mathau o wasanaethau sy'n rhan o'r rôl hon yn cynnwys cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i ddefnyddwyr y gwasanaeth dros y ffôn ac mewn achosion cymhleth gwneir ymweliadau cartref.  Mae'r swyddog SCC wedyn yn gallu anfon defnyddwyr gwasanaethau ymlaen a'u cefnogi i ddefnyddio unrhyw gymorth arall sydd ar gael yn ardal Bro Morgannwg.

 

Cymorth i Gyn-filwyr 

  • 07725 704655

 

Mae’r gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd, pwrpasol ac am ddim i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog ym Mro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn ymwneud â llawer o feysydd, gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg

  • 01446 741706

 

Mae GGM yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl a chymunedau drwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol.  Mae GGM yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd i ddiwallu anghenion grwpiau gwirfoddol fel gwasanaethau ariannu, y swyddog gwirfoddoli a chymorth i sefydlu elusen neu grŵp newydd.  Mae'r Swyddog Cyswllt Cymunedol yn cael ei gynnal o dan GGM ac felly gall GGM ddarparu'r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol a gwneud ymweliadau cartref.

 

Age Connects Caerdydd a’r Fro  

  • 02920 683600

 

Age Connects Caerdydd a'r Fro, elusen gofrestredig annibynnol a chwmni cyfyngedig drwy warant.  Ein gweledigaeth yw byw mewn cymdeithas lle mae pobl hŷn yn cael eu parchu a'u galluogi i gyflawni eu dyheadau.  Roedd y gwasanaethau a gynigiwyd gan Age Connects ym Mro Morgannwg yn cynnwys grwpiau cymorth iechyd, gwasanaeth cyfeillio, cynllun cymdogaeth dda, gwasanaeth hawliau lles a chanolfan Lles yn y Barri a all helpu gyda rhagor o wybodaeth a chyfeirio.

 

MIND yn y Fro

  • 01446 730792

 

Mae Mind ym Mro Morgannwg yn elusen iechyd meddwl annibynnol sy'n gysylltiedig â Mind National ac yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Maen nhw'n darparu gwybodaeth fel bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus.  Maent hefyd yn darparu hunangymorth dan arweiniad ac atgyfeirio cymdeithasol ar-lein, gwasanaethau cwnsela, cymorth gan gyfoedion i atal ynysu, llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol, addysg seicolegol a chyrsiau rheoli dicter.