Camddefnyddio Sylweddau
Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau'r Fro (TACF) yn rhan o'r gwasanaeth 'Newlands' sydd wedi'i leoli yn nhref y Barri.
Mae 'Newlands' yn dîm o’r GIG a’r Awdurdod Lleol sy'n cefnogi pobl (dros 18 oed) sydd ag anawsterau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau o bob rhan o Fro Morgannwg.
TACF yw’r Gwasanaeth o’r Awdurdod Lleol. Mae’n cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol sy’n Arbenigwr ar Gamddefnyddio Cyffuriau, Swyddog Gofal Cymdeithasol a Gweithiwr Cymorth. Rydym yn wasanaeth sy’n gweithredu o’r swyddfa, ac yn cynnig allgymorth.
Gan weithio yn unol â 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014' nod y gwasanaeth hwn yw hybu annibyniaeth a lles drwy wybodaeth, cyngor a chymorth tra'n gweithio i gryfderau a galluoedd unigryw pobl eu hunain.
Nid yw TACF yn wasanaeth ymatal ond bydd yn gweithio gyda phobl i sefydlu cynlluniau i gyflawni eu canlyniadau a'u hamgylchiadau personol eu hunain.
Dyma enghreifftiau o gymorth; gwaith lleihau niwed un i un, mynediad at wasanaethau gofal cartref arbenigol, asesiad ar gyfer triniaeth adsefydlu preswyl, mynediad at weithiwr cymorth arbenigol.
Gall unigolion, teuluoedd a chyfeillion, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill wneud atgyfeiriadau drwy gysylltu â Mynediad i Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol (EDAS)
E-DAS (Bro Morgannwg)
2-10 Heol Holton,
Y Barri,
Bro Morgannwg,
CF63 4HD