Cost of Living Support Icon

Iechyd a Lles

Mae lles yn hawl a chyfrifoldeb pawb. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am gefnogi a diogelu iechyd a lles ei drigolion.


Gellir diffinio llesiant mewn perthynas â gwahanol feysydd bywyd unigolyn, fel:

  • Iechyd corfforol a meddyliol, a lles emosiynol
  • Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • Addysg, hyfforddiant a hamdden
  • Perthnasau domestig, teuluol a phersonol
  • Cyfraniad a wneir i'r gymdeithas
  • Sicrhau hawliau
  • Lles cymdeithasol ac economaidd
  • Addasrwydd llety byw


Mae pawb yn wahanol ac felly hefyd eu blaenoriaethau, felly gall rhai o'r agweddau hyn fod yn bwysicach i rai pobl nag eraill. Fel awdurdod lleol mae'n ddyletswydd arnom i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor a chymorth addas i'n preswylwyr yn ôl yr angen.


Mae cyfeiriadur ar-lein Dewis Cymru wedi'i lunio i helpu unigolion a theuluoedd i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn haws. Mae'r cyfeiriadur yn rhestru gwasanaethau lles a ddarperir gan sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd sector ledled Cymru.

Gallwch chwilio gan ddefnyddio'ch cod post ar gyfer gwasanaethau a chymorth yn eich ardal neu chwilio am wasanaethau penodol. 

Dewis-logoDewis Cymru

Dewch o hyd i wybodaeth am iechyd a lles ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru