Cost of Living Support Icon

Iechyd Rhywiol 

Mae iechyd rhywiol yn rhan bwysig o'ch iechyd a'ch lles. Os oes gennych blant, mae'n dda siarad am ryw a'r materion sy'n ymwneud â chamau atal genhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

 
Mae yna wahanol wasanaethau a all roi cyngor i chi a'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eich iechyd rhywiol a'ch dulliau atal genhedlu.
 
Gellir trosglwyddo heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) o un person i'r llall trwy ryw heb ddiogelwch neu gyswllt genital. Mae gwasanaethau iechyd rhywiol i brofi a thrin ar eu cyfer yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael i bawb waeth beth fo'u rhyw, oedran, tarddiad ethnig a chyfeiriadedd rhywiol.

 

Profion STI

Os oes angen prawf STI arnoch ar frys, gallwch drefnu apwyntiad yn un o'r clinigau iechyd rhywiol hyn sydd ar gael ym Mro Morgannwg ac yn yr ardaloedd cyfagos.

 

Gallwch gael profion sylfaenol ar gyfer clamydia a gonorea mewn unrhyw un o’r rhain, ond dim ond yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd y ceir archwiliadau STI llawn, gan gynnwys profion gwaed.

 

Gallwch anfon y gair 'SLOT' i 07786202254 am 6.00pm y diwrnod cyn y byddwch am fynychu er mwyn gwneud apwyntiad i gael archwiliad llawn.

Atal Cenhedlu Brys

Gall dulliau atal cenhedlu brys gael eu cymryd hyd at 72 awr ar ôl rhyw heb ddiogelwch ond po hwyaf yr arhoswch, y lleiaf effeithiol ydyw. Mae ar gael gan:

  • Eich Meddyg Teulu
  • Clinigau iechyd rhywiol
  • Fferyllwyr

Dewis-logoDewis Cymru

Cael gwybodaeth am wasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru