Cost of Living Support Icon

Ysmygu

Pe bai ar gyfer rhesymau iechyd neu i arbed arian, hoffai'r rhan fwyaf o ysmygwyr rhoi'r gorau iddi

 

Mae yna nifer o fanteision i rhoi'r gorau i ysmygu gan gynnwys:

  • Lleihau'r risg o ddatblygu cancr, clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint

  • Gwella ffitrwydd yn gyffredinol, a

  • Gwella lefelau ffrwythlondeb

 

Mae plant nad yw eu rhieni'n ysmygu yn llai tebygol o ddioddef o broncitis, niwmonia, asthma, llid yr ymennydd a heintiau'r glust.


Os hoffech roi'r gorau i ysmygu, gallwch lwyddo gyda chymorth eich Meddyg Teulu neu Dim Smygu Cymru.

 

Stop-Smoking-Wales-logo

Dim Smygu Cymru

Mae Dim Smygu Cymru yn wasanaeth y GIG am ddim a ariennir ac a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor a gwasanaethau i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.

 

  • 0800 085 2219

Dewis-logoDewis Cymru

Cael gwybodaeth am wasanaethau a chymorth ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru