Gwirfoddoli
Ennill cymwysterau chwaraeon, profiad gwaith gwerthfawr ac yn bwysicaf oll cael hwyl wrth wirfoddoli.
Mae llawer o gyfleoedd i gynorthwyo ledled y Fro. O hyfforddi, bod ar bwyllgor clwb neu gymryd ffioedd aelodaeth ar gyfer pob sesiwn. Gallwch chi roi cymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunwch, derbynnir pob tamaid o wirfoddoli.
Mae chwaraeon anabledd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal llawer o weithgareddau chwaraeon. Rhowch faint bynnag o amser a allwch i helpu plant anabl i gael yr un cyfleoedd â phlant eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli o fewn y cynllun chwaraeon anabledd, cysylltwch â'ch swyddog clwstwr