Cost of Living Support Icon

Tim Byw'n Iach (Datblygu Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol)

Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol er mwyn gwella’u hiechyd a’u llesiant.

 

Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol i gynyddu eu hiechyd a'u lles, rydym yn arwain ar ddatblygu cynllun Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol y Fro, ac yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i greu gweithgareddau newydd a datblygu presennol ar gyfer preswylwyr o bob oed. Ynghyd â'n partneriaid rydym yn trefnu ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau blasu ar adegau trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn ein helpu i weithio tuag at weledigaeth y Fro o greu ‘cymunedau mwy egnïol ar gyfer dyfodol iachach’ a’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru lle ‘gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon’. 

 

I ddarganfod mwy am ein prosiectau, digwyddiadau, gweithgareddau blasu neu i drafod prosiect yr hoffech ei ddatblygu, cysylltwch ag aelod o'n tîm neu e-bostiwch healthylivingteam@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Gallwch hefyd gadw llygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am brosiectau, digwyddiadau, gweithgareddau blasu a chyfleoedd cyfredol.

 

VOG Sports  Play Logo redrawn transparant
  • ValeSportTeam1   
  • ValeSportTeam1   

Instagram - Valesportsteam1

You Tube - Vale Healthy Living Team

 

 

 

 

 

 

Edrychwch ar y fideo isod i weld rhai o'r prosiectau rydyn ni'n ymwneud â nhw.