Cost of Living Support Icon

Cyfleoedd arweinyddiaeth i blant a phobl ifanc

Hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc â diddordeb mewn arweinyddiaeth hyfforddi a chwaraeon ym Mro Morgannwg.

 

Blaenoriaeth allweddol a nodir yng Nghynllun Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol y Fro yw datblygu pobl sydd â'r wybodaeth a'r cymhelliant i ddarparu cyfleoedd hwyliog o ansawdd. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydym wedi datblygu a gweithredu nifer o raglenni i gefnogi arweinwyr ifanc i ysbrydoli, cymell a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc eraill.

 

 

Kids playing hockey

Nodweddion Llysgenhadon Ifanc 

 

Cynlluniwyd y cynllun Llysgenhadon Ifanc i feithrin sgiliau arwain pobl ifanc, gan eu grymuso i fod yn llais ieuenctid ar gyfer AG a chwaraeon ysgol yn eu hysgol a'u cymuned. Mae gan dîm Pobl Ifanc Egnïol y Fro lwybr ar gyfer y rhaglen Llysgenhadon Ifanc sy’n amrywio o lefel Efydd mewn oedran cynradd i lefel Aur. Bydd Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio eu rolau i Ysbrydoli, Dylanwadu, Mentora ac Arwain yn eu hysgol neu gymuned. Byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc i'w cefnogi yn eu datblygiad fel Llysgenhadon ifanc hyderus, llawn cymhelliant a medrus.

 

I ddarganfod mwy, cysylltwch â:

 

 

 

 

Wick Playmakers

Playmakers

 

Mae Playmakers yn wobr ragarweiniol Genedlaethol i arweinyddiaeth chwaraeon i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5. Mae'n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i ddisgyblion allu cynorthwyo i arwain eu gemau a'u gweithgareddau eu hunain yn yr ysgol, amser egwyl / cinio. Mae ysgolion yn defnyddio'r wobr hon mewn gwahanol ffyrdd gyda rhai ysgolion yn defnyddio Playmakers i gyflwyno gweithgareddau i grwpiau blwyddyn iau neu mae rhai ysgolion yn defnyddio'r Playmakers i gyflwyno gweithgareddau i grwpiau targed yn yr ysgol. Mae'r wobr yn canolbwyntio ar sgiliau penodol fel cyfathrebu, trefnu pobl ac offer a defnyddio gofod. Cyflwynir y cwrs hwn dros ddiwrnod ysgol gyda hyblygrwydd o ran eich gofynion ac mae'n rhad ac am ddim. I ddarganfod mwy, cysylltwch â'ch swyddog clwstwr.