Cost of Living Support Icon

Teithiau Cerdded Llesol

Rydym wedi creu nifer o deithiau cerdded i’ch cadw chi a’ch teulu’n iach ac yn actif a chael hwyl. Beth am roi cynnig arnynt!

 

Teithiau Cerdded yn y Parc a Helfa Drysor

Rydym yn llunio cyfres o daflenni sy’n rhestru llwybrau cerdded mewn parciau lleol a rhyngddynt lle y gallwch fwynhau’r nodweddion diddorol a’r golygfeydd hyfryd tra’n cael ymarfer corff. Caiff mwy o deithiau cerdded eu hychwanegu yma pan fyddant wedi’u cwblhau.  

Rydym hefyd wedi llunio cyfres o daflenni taith helfa drysor i deuluoedd eu cwblhau sy’n cynnwys rhai mannau o ddiddordeb a hefyd gweithgareddau corfforol ychwanegol, rydym yn gobeithio y byddwch yn eu mwynhau.

 

App screenshots

Appiau Cerdded Realiti Estynedig (RE)

Ffordd wych o annog aelodau iau eich teulu (a’r rhai ifanc eu hysbryd) i fynd ar daith allan i’r arfordir a chefn gwlad. Lawrlwythwch un o Appiau a gemau Realiti Estynedig y Fro sy’n dod â hanes yn fyw tra eich bod yn ymweld â’r safleoedd hyfryd ar draws y Fro.

 

Realiti Estynedig ym Mharc Romilly

Wrth fynd am dro, dysgwch am y llu o rywogaethau coed gwahanol y gellir eu gweld ym Mharc Romilly, Y Barri, gyda’n app llwybrau coed Realiti Estynedig (AR/RE) hwyliog. Dewiswch rhwng llwybr byr neu hir a dilynwch y map GPS i ddod o hyd i’r coed. Pan fyddwch yn cyrraedd coeden, chwiliwch am yr eicon AR crwn ar banel y goeden, tapiwch y botwm AR a phwyntiwch eich dyfais at y panel i gwrdd â Cyril y Wiwer mewn Realiti Estynedig a datgloi mwy am bob un o’r coed. Wrth i chi gasglu coed, gallwch chwarae’r gêm dal dail AR a storio popeth rydych chi wedi’i gasglu yn eich parc 3D eich hun.

 

Apple-Store
Android App Store
 

RE ym Mharc Gwledig Porthceri 

Mae gan Barc Porthceri gymaint i’w weld a’i wneud, a bydd yr app hwn yn eich galluogi i ddod â rhannau o’r parc yn fyw wrth i chi fynd allan i fforio. Mae gan yr app lwybrau casgladwy a sbardunir gan GPS sy’n eich galluogi i fforio yn y parc, gan gasglu planhigion ac anifeiliaid rhithwir ar hyd y ffordd tra eich bod yn cadw golwg am y rhai go iawn. Gallwch gasglu mythau a chwedlau o amgylch y parc gyda’r llwybr storïau ac mae llwybr casgladwy i blant o gwmpas ardal y ddôl hefyd sy’n eu galluogi i gasglu ffeithiau am anifeiliaid gwahanol tra eu bod yn rhedeg o gwmpas. Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, storïau, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd a fynnoch.

 

 Apple-Store
Android App Store

Activity-PacksPecynnau Gweithgareddau ar gyfer yr Arfordir Treftadaeth

Rhedwch o gwmpas cestyll, cwrdd â môr-ladron ysgeler, mynd ar helfa ffosiliau neu godi braw ar y Llychlynwyr, beth bynnag sy’ peri i’w calonnau rasio, eu hymennydd i weithio a’u traed i stampio allan o’r drws, rydym yn credu bod rhywbeth yma i chi a’ch teulu ei fwynhau. 

 

Lawrlwythwch un o becynnau hwyl i’r teulu y Fro a dysgu ychydig am yr arfordir wrth i chi fforio! 

 

Apiau a Gweithgareddau

Celtic-Crosses-Walk-CoverHanesion y Fro

Peidiwch colli ein App Hanesion y Fro newydd. Mae'r app yn adrodd y’r holl straeon y tu ôl i'r llwybrau. Byddwch yn clywed hanesion am fradwriaeth, rhamant, chwedlau, iconau Hollywood a gweithredoedd llwfr gan fôr-ladron enwog. Bydd eich teithiau cerdded yn dod yn fyw gyda hanesion gwir y Fro. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho'r App 

 

Hanesion y Fro

Barry Women's Trail coverTeithiau Cerdded Menywod Y Barri a Phenarth

Cafodd The Women’s Trails eu creu a’u lansio ar gyfer International Women’s Day’s 2013 a 2014, gan Wasanaethau Corfforaethol, Datblygu’r Celfyddydau a Llyfrgelloedd VOGC i ddathlu a nodi cyflawniadau sylweddol menywod y Fro o’r gorffennol.

 

Teithiau Cerdded Menywod Y Barri a Phenarth

Valeways 

Mae Valeways yn elusen annibynnol sy'n cael ei chynnal gan wirfoddolwyr ym Mro Morgannwg. Mae’n hybu iechyd a lles drwy gerdded, darparu teithiau cerdded tywys a theithiau cerdded annibynnol ar gyfer pob oedran a gallu.

 

Cerdded gyda Valeways

Ramblers

Gallwch fwynhau amrywiaeth o deithiau cerdded gyda grŵp Vale of Glamorgan Ramblers. Mae cerdded yn ffordd wych o gadw’n iach ac yn heini, yn ogystal â chwrdd â phobl o’r un anian â chi wrth fwynhau golygfeydd ysblennydd arfordir a chefn gwlad Bro Morgannwg.

 

Ramblers