Cost of Living Support Icon

Teithiau Cerdded Menywod Y Barri a Phenarth

Mae dwy Daith Gerdded Menywod ym Mro Morgannwg sy’n dathlu bywydau menywod nodedig a phwysig a fu’n byw yn yr ardal

Lansiwyd y Teithiau Cerdded yma ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac maen nhw’n dathlu bywydau menywod nodedig a phwysig a fu’n byw yn y Fro.

 

Taith Gerdded Menywod Penarth  

Ray-Howard-Jones

Lansiwyd y daith gerdded hon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2014, ac mae’n eich tywys i 15 man o ddiddordeb sy’n gysylltiedig â’r menywod yma a gyflawnodd bethau mawr yn ystod eu bywydau.

 

Ymhlith y pymtheg mae Emily Ada Pickford, a gwelir ei henw ar Garreg Goffa Penarth ym Mharc Alexandra hefyd. Cantores a cherddor oedd Emily, a theithiodd ledled y ffrynt Gorllewinol yn diddanu’r milwyr. Bu farw dan amgylchiadau trasig pan lithrodd y car roedd hi’n teithio ynddo ar iâ ar ôl iddi fod yn perfformio mewn cyngerdd yn Gouy yn Ffrainc, a syrthiodd i mewn i afon Somme.

 

Menyw nodedig arall yw Ray Howard-Jones (y llun ar y dde), artist rhyfel o’r Ail Ryfel Byd. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei darluniau o arfordir Penarth ac am gofnodi’r paratoadau ym Mro Morgannwg ar gyfer cyrch D-day yn Normandi. 

 

Gweld map  

Taith Gerdded Menywod Y Barri  

Lansiwyd y daith gerdded hon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2013 i ddathlu cyraeddiadau 17 menyw a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cyhoeddus yn y Barri. 

 

grace-williamsYmhlith y menywod ar hyd y daith mae’r gyfansoddwraig Grace Williams, y cyn Faer ac arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Margaret Alexander, a’r arloeswraig gymdeithasol Lucy Dickenson, a sefydlodd yr elusen datblygu rhyngwladol, The SAFE Foundation.

 

 Gweld map 

 

Mae llyfryn y daith (Saesneg) ar gael o swyddfeydd y Cyngor a llyfrgelloedd y Fro, ac mae’n olrhain straeon y menywod i gyd ac yn nodi ymhle yn y dref mae’r placiau a gyflwynwyd i’r menywod yma.