Universal Energy in Art
Beryl Rhys Wilhelm
O ddydd Sadwrn 20 Medi i ddydd Sadwrn 01 Tachwedd 2025
Digwyddiad Agoriadol Dydd Sadwrn 27 Medi 2025, 1pm i 3pm
Artist o’r Fro yw Beryl Rhys Wilhelm, sydd wedi bod yn creu ei phaentiadau unigryw ers blynyddoedd lawer. Dechreuodd ei diddordeb mewn celf pan oedd yn blentyn, a hithau’n byw yn Llanelli, yn treulio amser yn darlunio pobl, golygfeydd theatrig a thestunau eraill a ddylanwadodd ar ei bywyd ar y pryd. Mae enghreifftiau cynnar o'i gwaith o’i llyfr braslunio i'w gweld fel rhan o'r arddangosfa.
Mynychodd Beryl yr hyn a oedd yn Goleg Celf Llanelli ar y pryd (Coleg Sir Gâr heddiw), lle bu’n astudio am Ddiploma mewn Celf. Ar ôl priodi, parhaodd i baentio yn ei hamser hamdden, wrth iddi ofalu am ei theulu. Mae mynyddoedd a thirweddau Awstria, lle byddai Beryl a'i theulu’n aml yn mynd ar wyliau, wedi cael dylanwad mawr ar rai o'i gweithiau celf.
Ar ôl byw yng Nghaerdydd, symudodd y teulu i Gernyw lle, unwaith eto, ysbrydolodd y golygfeydd lleol ei hymarfer creadigol. Yn y pen draw, hiraeth i ddychwelyd i'w gwlad enedigol a ysgogodd yr artist i ddod yn ôl i Gymru, ac ymgartrefodd yn y Barri.
Mae Beryl yn paentio bob dydd, a phrin yn gallu rhoi ei brwsys i lawr. Y canlyniad yw casgliad o atgofion, breuddwydion, gweledigaethau, a phrofiadau bywyd, sydd wedi amlygu eu hunain trwy liwiau cynnil a dramatig, delweddaeth, a rhywbeth y mae'n hi’n ei ddisgrifio fel “dychymyg pur”. Gan ddefnyddio dim ond tri lliw sylfaenol a gwyn, mae ei dull o dros-haenu a chymysgu paent yn ofalus yn cynhyrchu darnau lliwgar, trawiadol ac annaearol. Mae'r tirweddau – gyda ffigurau cudd, bywyd gwyllt, ac wybrennau dramatig – yn denu’r syllwr i mewn i'r gwaith, i chwilio am fanylion a negeseuon cudd.
Mae'r artist wedi gwerthu dros 200 o baentiadau ac wedi ymgymryd â sawl comisiwn.
Dywedodd Beryl: “Rwy'n ceisio llenwi fy mhaentiadau gyda naws swrealaidd neu hudolus, sy’n aml wedi’i ysbrydoli gan atgofion a dychymyg; rhywbeth rwy'n teimlo sydd y tu hwnt i’r byd hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: “Rydym wrth ein bodd yn arddangos gwaith celf Beryl yn yr oriel. Bydd ei harddull unigryw a'i gwaith lliwgar yn apelio at gynulleidfa eang.”
Bydd y digwyddiad agoriadol ar gyfer Universal Energy in Art gan Beryl Rhys Wilhelm yn cael ei gynnal yn yr Oriel Gelf Ganolog, y Barri, ddydd Sadwrn 27 Medi, o 1-3pm. Mae croeso i bawb fynychu, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn yr oriel.
Gwelwch dudalen yr Oriel Gelf Ganolog ar Facebook.