Cost of Living Support Icon

Artist Exchange LogoCyfnewidfa’r Artistiaid 

Cyfle, cyfroes i gweld, dymuno, cysylltu a cyswllt gyda Artisitiaid sydd yn gweithio rhanbarthol yn amrywiaeth o ctfryngau gwahanol

 

Mae Cyfnewidfa’r Artistiaid yn rhan o Gyswllt Celf, partneriaeth datblygu celf rhwng ardaloedd awdurdodau lleol Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’n cynnig cyfle i chi gysylltu, hyrwyddo, rhannu a dathlu eich arferion celf yn lleol, yn rhanbarthol ac yn bellach oddi cartref.   

 

Mae Cyfnewidfa’r Artistiaid yn trefnu seminarau rhwydweithio lle gall artistiaid gyflwyno’u gwaith i’w gilydd a thrin a thrafod arferion, newyddion a materion celf gyfoes, leol a chenedlaethol.  

  

Ymuno â Chyfnewidfa’r Artistiaid 

 

Os oes gwnnych ddiddordeb mewn ymuno â Chyfnewidfa’r Artistiaid, llenwch ffurflen gais a’i dychwelyd aton ni gyda llun ohonoch chi neu’ch gwaith, at:

 

 

 

Yr Artistiaid

ADDO Creative Arts Consultancy Logo

Addo 

Curaduron / Ymgynghoriaeth, yn arbenigo ym celf yn yr teyrnas cyhoeddus.

 

Addo, yn  trefniadaeth ddim- am- elw celf, sydd yn cynnig gwasanaethau curadu, ymgynghori a rheoli prosiect er mwyn cyfleu celf gyfoes arloesol. Mae gan Addo ddwy swyddfa, y naill yn Rhondda Cynon Taf a’r llall yn Wrecsam. 

 

Mae gan y cwmni brofiad helaeth a llwyddiannus o ysgogi, comisiynu a chynhyrchu ystod eang o brosiectau celf gyhoeddus gyda, ac ar ran, artistiaid, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

 

Barry Island Beach

Barbara Archdale-Smith 

Ffotograffydd

Mae gan Barbara oriel ffotograffiaeth fasnachol o’r enw PhotoArt a leolir yn 85 High Street, Y Barri CF62 7DX. 


Mae Barbara’n aelod o’i chlwb ffotograffiaeth lleol yn y Barri, sy’n cynnal ei diddordeb a’i chysylltiad â ffotograffiaeth. Derbyniwyd nifer o’i delweddau i Salon Ffotograffiaeth Ffederasiwn Ffotograffig Cymru, ac mae Barbara wedi ennill sawl cystadleuaeth fisol a blynyddol y clwb.

 

 

Blue Sphere

Paul Baker 

Artist Cerameg  

Mae Baker yn ymdrechu i weithio’r tu hwnt i norm crochenwyr sefydlog. Mae’n gwthio defnydd clai i’r eithaf, ac ar hyn o bryd, mae’n datblygu’r maes drwy ddylunio mewn 3D a’i drosglwyddo i’r olwyn. Mae’n datblygu’r addurno drwy Photoshop yn yr elfen 3D i gyd-fynd â’r ffurf pan gaiff ei thaflu a’i thrin. 

 

 

Andy Cragg 

Arlunydd Haniaethol 

Y Bont-faen 

Mae Andy Cragg yn arlunio darnau haniaethol, fel arfer ar ffurf dirweddol gan ddefnyddio acrylig. Mae Cragg yn hoffi gadael i’r paent benderfynu beth fydd golwg derfynol y gwaith, gan wasgaru paent o’r tiwb ei hun a defnyddio brwshys mawr a rholeri i greu gweadau wrth i’r paent sychu.   

 

 

Professor Tony Curtis

Yr Athro Tony Curtis 

Bardd, awdur ffuglen, beirniad ym meysydd llenyddiaeth a chelf weledol, curadur celf, dramodydd a darlithydd

Y Barri 

Mae’r Athro Tony Curtis wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau, yn cynnwys wyth gyfrol o farddoniaeth.

 

Mae’n Athro Emeritws mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru, lle sefydlodd gyrsiau ysgrifennu creadigol hyd at lefel ôl-radd a’u cynnal am dros chwarter canrif. Cynhaliodd daith ddarlithio yn ystod Canmlwyddiant Dylan Thomas o dan y teitl My Life with Dylan Thomas, a bu yng ngofal curadu arddangosfa gysylltiedig yng Nghaerfyrddin ac yn y Barri.

 

 

Nick Davies

Nick Davies 

Arlunydd 

Llanilltud Fawr  

Mae byd natur yn ddylanwad mawr ar arferion celf Davies, a’i bwriad hi yw edych ar ffyrdd o ailgyflwyno byd natur i fyd celf drwy adlewyrchu ynni a rhythm y byd naturiol. Astudiodd MA Arferion Celf (Celfyddyd Gain) ym Mhrifysgol De Cymru o 2013-15. Adlewyrchiadau mewn dŵr a dehongliad o ‘Adlewyrchiad’ oedd ei chanolbwynt. Er mai cefndir ffurfiol mewn arlunio sydd gan Davies, cafodd gyfle yn ystod ei chwrs i weithio mewn sawl cyfrwng, sydd wedi rhoi canfyddiad dyfnach iddi ar gyfer prosiectau celf yn y dyfodol.


Mae’n fwriad gan yr artist archwilio thema adlewyrchiad ymhellach drwy greu naratif gweledol o deithio drwy dirwedd gorfforol wedi’i fynegi drwy arlunio, argraffiadau lino wedi’u torri â llaw a ffilm wedi’i phrintio ar wydr. 

 

 

Sarah Featherstone

Sarah Featherstone 

Gwneuthurwr print, arlunydd, awdur 

Casnewydd 

Mae Sarah Featherstone yn gweithio mewn ffordd reddfol, haniaethol, ac yn mynd i’r afael yn aml â chylchdro byd natur drwy ddefnydd deunyddiau organig. Mae ganddi ddiddordeb yn yr isymwybod mewn gwahanol ffurfiau, ac mae’n arbrofi’n gyson â ffurf o ‘ysgrifen wen’. Mae testun y cefndir yn troi’n ffurf ar ddeialog fewnol sy’n llifo drwy’r gwaith ac odano, ac yn ei gyfarwyddo a’i uno, rywsut.

 

  • 07792452361 

 

 

Flight of the Imagination

Eve Hart 

Arlunydd, Ceramegydd  

Y Barri 

Mae gan Eve Hart ddiddordeb arbennig yn yr olion a adewir gan bobl, manylion llefydd penodol ar adeg benodol, a threfn ymddangosiadau ar hap. Yn ddiweddar, mae llawer o waith Hart wedi bod mewn arddull haniaethol ac weithiau symbolaidd; ym mhob achos, mae’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth - boed hynny o fywyd bob dydd neu o fywyd mewnol y meddwl a’r dychymyg.

 

 

'Comets'

Bernard Heslin 

Arlunydd 

Y Rhws 

Mae Heslin yn defnyddio paent olew ar gynfas i greu darluniau ffigurol ar raddfa fawr. Mae’r ffigyrau ar goll yn eu myfyrdod, ond eto, mae Heslin yn awyddus iddynt ryngweithio â’r gwyliwr: ‘er gwaetha’r afluniad, rhaid bod gan y ffigur bresenoldeb credadwy’. Mae e hefyd yn eu darluniau caligraffig ag inc du, paentiadau acrylig, ac yn y gorffennol, gwnaeth brintiau, ysgythriadau a thoriadau lino.

 

 

  

 

HayleyHuckson

Hayley Huckson 

Artist 

Y Rhws 

Mae Hayley Huckson yn arlunydd olew ym Mro Morgannwg. Dywedwyd am ei gwaith ei fod yn ‘dyner ac yn heddychlon’ waeth beth yw ei destun. Ei darluniau o dai yw’r rhai mwyaf poblogaidd. Mae Huckson yn mwynhau arlunio popeth, ond ei hoff bwnc yw tirweddau’r gaeaf. 

  

 

  

Axial Tilt

Dilys Jackson 

Cerflunydd 

Caerdydd 

Mae Dilys Jackson yn byw yng Nghaerdydd, ac mae wedi teithio a byw yn Ewrop, America, Canada, yr Emiraeth Unedig Arabaidd, Sgandinafia ac Awstralia.

Caiff cysyniadau ar gyfer ei gwaith eu hysbrydoli gan ffurfiau’r corff, planhigion a’r tir, ac mae iddynt densiynau gwahanol mewn ffurf, maint a phrosesau.

 

 

 

Monika Jones

Monika Jones 

Arlunydd, crochenydd, ceramegydd, artist gwydr

Y Barri 

Mae gan Jones ei ffwrn wydr ei hun, ac mae’n creu dysglau, powlenni a gemwaith mewn gwydr lliw a deu-liw. Mae hefyd yn gwneud potiau â llaw, ac eitemau wedi’u castio a’u taflu gan ddefnyddio amrywiaeth o glai a phorslen. Yn ogystal, mae Jones yn mwynhau arlunio ac mae’n Gadeirydd Cyfeillion Celf Ganolog.

 

 

 

Holiday Time

Bee Lilli 

Arlunydd

Porthcawl 

Bu Bee Lilli’n astudio creu gemwaith yn ei hugeiniau a throi’n ddylunydd gerddi yn ei phedwardegau. Erbyn ei phumdegau, roedd hi’n mwynhau cyrsiau ffotograffiaeth a nawr ei bod yn ei chwedegau. Mae wedi darganfod ei chariad pennaf - arlunio. Mae Bee yn hyfforddwr cymhelliad a Deddf Atyniad, ac mae hyn yn amlwg o ynni, bywiogrwydd a llawenydd pob gwaith mae’n ei gynhyrchu ar gynfas.

 

 

Elaine Milford

Elaine Milford 

Arlunydd, cerflunydd, arlunydd, dylunydd setiau ac awdur 

Sully 

Bu Elaine Milford yn artist ers blynyddoedd maith, ym meysydd cerflunio ac arlunio gan mwyaf, yn ogystal â darlunio, dylunio setiau ac ysgrifennu. Bu’n byw ac yn gweithio dramor am rai blynyddoedd, yn cynnwys ym Macedonia, Slofenia, Prâg, Fenis, Twrci a Ffrainc. Symudodd Milford yn ôl i’r DU ac mae wrthi’n sefydlu menter leol o’r enw Me Art Space â’r bwriad penodol o weithio gydag artistiaid lleol i greu arddangosfeydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

  

 

Arts_Connect

 

Cynllun gan Gyswllt Celf yw Cyfnewidfa’r Artistiaid, i gysylltu artistiaid o fewn y pedwar rhanbarth: Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.