Cost of Living Support Icon

Anableddau Dysgu

Os oes gennych chi (neu rywun rydych chi'n ei adnabod) anabledd dysgu ac rydych yn meddwl y gallai fod angen help arnoch, gallwn drefnu i weithiwr cymdeithasol gynnal asesiad i siarad â chi am sut rydych am gael eich cefnogi â bywyd o ddydd i ddydd.

 

Gall pobl ag anabledd dysgu:

  • Ei chael hi'n anodd deall gwybodaeth newydd neu gymhleth neu ddysgu sgiliau newydd.

  • Ei chael hi'n anodd ymdopi â rhai agweddau ar eu bywyd beunyddiol heb gymorth.

 

Cymorth, Adnoddau a Gwybodaeth

Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol wedi crynhoi gwybodaeth y maent yn teimlo a all fod o fudd i’r rhai y maent yn eu cynorthwyo a’u gofalwyr.  Mae’n cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau i ofalwyr, cymorth cymunedol, adnoddau addysg, trafnidiaeth, gwaith a gwirfoddoli, iechyd a llesiant, gweithgareddau a’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig:

 

 

Mae'r Tîm Cymorth Cymunedol (TCC) yn cefnogi dinasyddion a'u gofalwyr i gwblhau asesiadau lles a ddatblygwyd ar y cyd gan ganolbwyntio ar gryfderau a chanlyniadau personol unigolyn.  Os yw'r asesiad yn nodi unrhyw anghenion gofal a chymorth cymwys, bydd y tîm yn cynorthwyo'r unigolyn i archwilio ffyrdd y gallant gyflawni eu canlyniadau personol mewn ffordd ystyrlon, a ddarperir drwy gynllun gofal a chymorth.  Gall hyn gynnwys atgyfeiriad i gynllunwyr cymorth.

 

Er mwyn cael gwasanaeth y Tîm Cymorth Cymunedol, rhaid i chi wneud cais am asesiad:

I ofyn am asesiad, rhaid i chi (neu'r person rydych chi'n ei atgyfeirio) fod yn 18 oed neu'n hŷn a chael Anabledd Dysgu.

 

Cais am Asesiad

 

Cynllunio Cymorth

Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Cymorth Cymunedol yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Bro Morgannwg.  Gallwn eich cefnogi os oes gennych anabledd dysgu sydd wedi cael diagnosis ac mae angen cymorth i ystyried eich amcanion a'ch dyheadau at y dyfodol.  

 

Gallwn eich helpu i lunio cynllun neu lwybr i gyflawni hyn ac archwilio pa gymorth y bydd ei angen arnoch.  Bydd Cynllunydd Cymorth yn cael ei ddynodi i chi a’r bobl sy’n bwysig i chi, i'ch helpu i ystyried yr hyn sy'n bwysig i chi.

Enghreifftiau o ffyrdd y gallwn eich helpu:

  • Ymchwilio i gyfleoedd newydd lleol i chi e.e. clybiau chwaraeon

  • Eich cyfeirio at weithgareddau newydd yn eich ardal e.e. cyrsiau hyfforddi

  • Creu cynllun i'ch helpu i gyflawni eich nodau e.e. eich helpu i ddod o hyd i waith gwirfoddoli sy'n arwain at waith cyflogedig

  • Trefnu a mynychu sesiynau blasu e.e. dod gyda chi i ddechrau i rolau gwirfoddol

  • Cynllunio llwybrau i weithgareddau cymunedol

 

Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau gan y Tîm Cymorth Cymunedol. Cysylltwch â’ch rheolwr achos i gael rhagor o wybodaeth. Os nad ydych yn dymuno gweithio gyda’r tîm, ond yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â Cyswllt Un Fro i ofyn am asesiad o'ch anghenion gofal a chymorth:

 

 

 

Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu - Cyfleoedd Dydd

 

Pwy rydyn ni’n eu cefnogi?

Rydyn ni’n darparu cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anabledd dysgu, sydd hefyd ag anghenion cymhleth. 

 

Gallwn gefnogi:


  • Pobl ag anabledd dysgu a allai hefyd fod â chyflyrau eraill 

  • Pobl â gofynion iechyd ychwanegol  

  • Pobl ag anghenion cymhleth sydd angen meddyginiaeth bob dydd a/neu mewn argyfwng  

  • Pobl y mae arnynt angen cymorth ychwanegol gyda gofal personol 

  • Pobl â nam ar eu synhwyrau a chlyw 

 

Nid yw'r rhestr hon o bobl y gallwn ddarparu cymorth iddynt yn derfynol a chaiff pob atgyfeiriad ei ystyried ar sail unigol.

 

Yr hyn a wnawn

Rydym yn gweithio o’r Barri ac yn darparu cyfleoedd dydd o'n dwy ganolfan, yn ogystal â lleoliadau cymunedol amrywiol, yn gwasanaethu dinasyddion ledled y Fro.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda phob unigolyn fel unigolyn, gan greu rhaglenni wythnosol i'w grymuso i gyflawni canlyniadau neu nodau llesiant mewn meysydd fel gwaith a gwirfoddoli, dysgu a sgiliau byw'n annibynnol, byw'n iach, ymarfer corff a hamdden, celf a diwylliant. Rydyn ni’n cynllunio mewn ffordd sydd â’r person yn ganolog iddo, fel bod gan bobl ddewis a rheolaeth dros eu bywydau bob dydd. Rydyn ni’n gwneud pethau 'cyffredin' mewn mannau 'cyffredin', gydag aelodau o'r gymuned leol.

 

Mae ein gwasanaeth yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cynyddu eu hannibyniaeth, yn lleihau unigedd cymdeithasol ac yn manteisio i'r eithaf ar eu potensial.  Rydyn ni’n darparu seibiant lleol gwerthfawr i deuluoedd a gofalwyr, gan alluogi pobl i aros yn agosach i’w cartref. 

 

Er mwyn cael gwasanaeth, rhaid i chi wneud cais am asesiad:

 

 

Dewis Cymru Logo Welsh