Cost of Living Support Icon

Cyfarpar ac Addasiadau

Efallai y bydd angen cyfarpar ac addasiadau ar rai pobl i'w helpu i aros mor ddiogel ac annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

 

Er mwyn cael darpariaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaid i berson fod â nam parhaol a sylweddol sy'n effeithio ar ei allu i weithredu gartref.  Gall y Gwasanaeth Iechyd hefyd ddarparu cyfarpar ar gyfer angen tymor byr o hyd at 3 mis. Bydd yr asesiad yn cael ei gwblhau naill ai gan staff Therapi Galwedigaethol neu gan weithiwr sy’n arbenigo mewn Namau ar y Synhwyrau.

 

Pryd i atgyfeirio:

  • Ydych chi’n cael anawsterau wrth ymolchi neu gael bath?

  • Ydych chi’n pryderu am eich diogelwch oherwydd eich nam?

  • Ydych chi’n ei chael hi’n anodd symud o amgylch yn eich cartref?

  • Ydych chi’n teimlo bod perygl y gallech anafu eich hun oherwydd y ffordd rydych chi’n cael eich codi, neu’r ffordd rydych chi’n codi rhywun os mai chi yw’r gofalwr?

  • Ydych chi'n ei chael hi'n anodd mynd o gwmpas eich pethau neu gynnal gweithgareddau oherwydd y nam ar eich golwg?

  • Ydych chi'n ei chael hi'n anodd clywed y teledu, neu bethau eraill yn y tŷ er eich bod eisoes yn gwisgo cymorth clywed?

 

Os mai ydw yw'r ateb i unrhyw un neu rai o'r rhain, gallai asesiad arwain at gyngor neu arweiniad neu ddarparu cyfarpar  a/neu addasiadau.

Cyfarpar

Mae offer ar gael ar fenthyg gan nifer o asiantaethau.  Yn gyffredinol:

  • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am gyfarpar sy'n ymwneud â gweithgareddau bywyd bob dydd neu ddiogelwch yn y cartref. Mae'r cyfarpar ar gyfer angen hirdymor.

  • Bydd yr Awdurdod Iechyd yn darparu cyfarpar pan fydd angen tymor byr, er enghraifft wrth wella o lawdriniaeth. 

  • Mae’r Adran Addysg yn gallu darparu cyfarpar sy’n angenrheidiol i alluogi plentyn i fynd i'r ysgol neu gael ei addysgu

  

Mae’r cyfarpar a ddarperir gan yr Awdurdod Iechyd ar gael am ddim. 

 

Nid yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cyfarpar sy'n costio llai na £15. Caiff pob cyfarpar arall ei roi ar fenthyg am ddim.

 

Os nad oes angen y cyfarpar bellach, dylid ei ddychwelyd i'r siop fenthyciadau a drefnodd y benthyciad. 

Addasiadau 

Mae nifer o addasiadau y gellir eu gwneud yng nghartref unigolyn i'w alluogi i fynd o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel.  Gall y rhain gynnwys:

  • Ei gwneud yn haws mynd i mewn ac allan o eiddo drwy, er enghraifft, osod rheiliau, lledu drysau a gosod rampiau

  • Ei gwneud yn haws mynd o gwmpas yn y tŷ a chyrraedd yr ystafell wely, ystafell fyw, ystafell ymolchi a thoiled. Gall hyn fod drwy ddarparu rheiliau grisiau a gafael, gosod lifft neu addasu'r ystafell ymolchi gyda rheiliau neu gawod.

  • Gwella goleuadau ar gyfer person â nam ar y golwg. 

  • Gwella mynediad a symud o amgylch y cartref i alluogi'r person anabl i ofalu am berson arall sy'n byw yn yr eiddo, megis priod, plentyn neu berson arall y mae'r person anabl yn gofalu amdano. 

 

Gwella mynediad i'r ardd lle bo hynny'n ymarferol.


Ni chodir tâl am fân waith sy'n costio llai na £1,000.  Caiff y rhain eu hadnabod yn dilyn asesiad gan y tîm perthnasol.

 

Bydd gwaith sy'n costio dros £1,000 mewn cartrefi preifat neu gartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat yn destun asesiad ariannol (os yw’r person sydd angen y gwaith dros 18 oed). Maen nhw’n cael eu darparu drwy Grant Cyfleusterau i'r Anabl.   

 

Os oes angen gwaith mewn eiddo sy'n eiddo i Gymdeithas Dai, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cwblhau asesiad.  Yna anfonir cais at y Gymdeithas Dai er mwyn iddynt drefnu cwblhau'r gwaith a argymhellir. 

Sut i atgyfeirio am asesiad

I wneud atgyfeiriad ar gyfer asesiad gan y Tîm Therapi Galwedigaethol, neu weithwyr Nam ar y Synhwyrau, ar gyfer unrhyw un dros 18 oed, cysylltwch â:

 

Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

  • Tecstiwch C1V yna eich neges i 60066

 

Gydag atgyfeiriadau i gael plentyn wedi ei asesu gan Therapydd Galwedigaethol cysylltwch â 

  • 01446 704244