Cost of Living Support Icon

Prisiau Gwasanaethau Gofal

Mae eich asesiad a’r wybodaeth a’r cyngor rydyn ni’n eu cynnig i chi ar ei ôl yn rhad ac am ddim. Bydd pris unrhyw wasanaeth byddwch chi’n ei dderbyn wedyn yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol benodol chi a’r gwasanaeth dan sylw. 


Nid oes rhaid talu am unrhyw wasanaeth byddwch chi’n ei dderbyn gan y Gwasanaeth Iechyd. Os oes angen gofal nyrsio arnoch chi, gall nyrsys y Gwasanaeth Iechyd ddod i’ch cartref neu gartref gofal. Os oes angen i chi symud i gartref gofal sy’n darparu gwasanaeth nyrsio, bydd y Gwasanaeth Iechyd yn talu swm penodol am elfen nyrsio o ffioedd y cartref gofal. 

 

Efallai fyddwch chi’n gymwys i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd. Os felly, byddai cost y gwasanaethau i gyd yn cael eu talu gan y Gwasanaeth Iechyd a buasech yn eu derbyn yn un o ganolfannau’r Gwasanaeth Iechyd neu mewn cartref gofal â gwasanaeth nyrsio.

 

Os byddwch chi’n penderfynu eu derbyn yn eich cartref, byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn talu costau nyrsio ond nid costau cefnogi cyffredinol. 

 

Polisi Codi Tal

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr ystod lawn o daliadau yn nhaflen Codi Tâl Cyngor Bro Morgannwg:

 

  

Gwasanaethau yn y cartref

Bydd pris gwasanaethau yn y cartref yn dibynnu ar nifer o amodau.

 

Fe rheol, byddwch chi’n talu cyfran o gost eich gofal os yw gwerth eich cynilon neu gyfalaf (ac eithrio gwerth eich tŷ) yn uwch na lefel benodol. Bydd cap ar y swm byddwch chi’n ei dalu’n wythnosol.


Bydd eich gweithiwr cymdeithasol neu swyddog ymweld yn eich hysbysu o derfyn swm y cyfalaf ac uchafswm y gost wythnosol gyfredol. 

Cartrefi gofal

Os mai cartref gofal yw’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch chi, gyda nyrsio neu hebddo, bydd gofyn i chi dalu cyfran o’r gost oni bai eich bod yn derbyn ôl-ofal yn unol â Deddf Iechyd Meddwl 1983. 

 

Fel rheol, os yw gwerth eich cynilon neu gyfalaf (ac eithrio gwerth eich tŷ):

  • yn uwch na swm penodol bydd gofyn i chi dalu am eich gofal, er bydd cap ar yn hyn fyddwch chi'n ei dalu'n wythnosol
  • yn is na lefel y cyfyngiad cyfalaf, os mai pensiwn y wladwriaeth yw eich unig incwm (a chredyd wedi ei warantu os yw'n berthnasol), bydd lwfans personol y weddill i chi.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol neu swyddog ymweld yn eich hysbysu o derfyn swm y cyfalaf ac uchafswm y gost wythnosol gyfredol.


Mae’n well gan rai pobl wneud eu trefniadau eu hunain. 

 

Os ydyn ni’n ariannu eich gwasanaethau, mae’r Cynllun Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu i chi wneud hyn a thalu eich staff gofal eich hun, a byddwn ni’n arolygu defnydd priodol o’r arian

 

Byddai manylion am hyn yn cael eu cynnwys yn eich cynllun gofal a chefnogaeth. 



Asesiadau ariannol

Mae ein Swyddogion Asesiadau Ariannol, sydd hefyd yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles, yn estyn gwahodd i chi gynnal Asesiad Ariannol sy’n benodol i’ch sefyllfa. Maent yn gweithio i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol i gleientiaid a bennir gan y gwasanaethau cymdeithasol.  

 

Cysylltu:

Cyswllt UnFro (C1V):

01446 700111, e-bost: C1V@valeofglamorgan.gov.uk

 

Swyddogion Asesiadau Ariannol/Cynghorwyr Budd-daliadau:

01446 704216 neu 704747 neu 704706