Cost of Living Support Icon

Taliadau Uniongyrchol

Mae Taliad Uniongyrchol yn ffordd wahanol o dderbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Yn hytrach na’n bod ni’n trefnu gwasanaeth ar eich rhan, byddwch chi’n derbyn taliad arian parod. Gallwch chi ddefnyddio’r arian hwn i drefnu’r math o gefnogaeth rydych chi’n ei ffafrio, gan roi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i chi ynghylch diwallu eich anghenion.

 

Gallai’r grwpiau o bobl isod dderbyn Taliadau Uniongyrchol, yn dilyn asesiad anghenion gan reolydd achos: 

  • Pobl ag Amhariad Corfforol
  • Pobl ag Amhariad Synhwyraidd
  • Pobl ag Anabledd Dysgu
  • Pobl ag Afiechyd Meddwl
  • Pobl sydd â chyfrifoldeb rhieni dros blentyn ag anabledd
  • Plant ag Anabledd sy’n 16 neu’n 17 oed
  • Cynhalwyr (yn cynnwys Cynhalwyr Ifanc sy’n 16 neu’n 17 oed)

 

Gallwch chi ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol, ond nid dyma’r unig ffordd o’u defnyddio. Gallech chi benderfynu trefnu cytundeb ag asiantaeth, neu gyfuno’r ddwy elfen uchod.

 

Gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol hefyd i dalu am ofal preswyl tymor hir neu ofal nyrsio. Ni allwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol i dalu am wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Cyngor (fel rhai canolfannau dydd).

 

Adborth gan rai o ddefnyddwyr Taliadau Uniongyrchol

"Mae e’n magu hyder i gynllunio ymlaen llaw a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae wedi gwella ansawdd ei fywyd yn sylweddol."

 

"Rydw i’n fwy na bodlon – mae gen i bob cefnogaeth sydd ei angen arna i."

 

"Mae popeth wedi gweithio’n dda i ni gyda chymorth ein Cynghorydd Byw’n Annibynnol." 

 

"Yn ddiweddar, defnyddiais asiantaeth gofal oherwydd salwch fy Nghynorthwyydd Personol, felly rwy’n gwerthfawrogi system Taliadau Uniongyrchol a’r rhyddid mae’n ei rhoi i mi gyflogi fy staff fy hun."

  

 

Swyddog Datblygu Taliadau Uniongyrchol 

  • 01446 704203

Canolfan Dewis dros Fyw’n Annibynnol 

  • 01443 827930

 

Os nad oes gweithiwr cymdeithasol gennych chi, dylech chi gysylltu â Chyswllt UnFro. Byddan nhw’n trefnu asesiad i chi. Rhaid cynnal asesiad cyn y gellir gwneud Taliadau Uniongyrchol.

  • 01446 700111