Cost of Living Support Icon

Cyfleoedd Dydd 

Rydym yn darparu ac yn cefnogi cyfleoedd dydd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys allgymorth cymdeithasol yn y cartref a gweithgareddau cymunedol ac mewn canolfannau ym Mro Morgannwg.

 

Rydym yn cynnig y gwasanaethau hyn i bobl 18 oed a hŷn ac maent wedi'u cynllunio i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl. Darperir gwasanaethau i bobl hŷn mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru a Hafod.

 

Nodau'r gwasanaethau a ddarparwn yw:

  • Hyrwyddo annibyniaeth a datblygiad personol
  • Lleihau allgáu cymdeithasol
  • Darparu seibiant i ofalwyr gartref
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol i ddiwallu anghenion unigol
  • Darparu cymorth dwys i bobl sy'n arddangos ymddygiad heriol neu sydd ag anghenion cymorth uchel.

Pwy rydyn ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi pobl hŷn, oedolion sy'n byw gyda dementia, oedolion ag anableddau dysgu ac oedolion iau ag anableddau corfforol. Mae'r gwasanaethau yn naturiol hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i ofalwyr. I weld a ydych yn gymwys i gael y cymorth hwn, bydd angen i chi ofyn am asesiad: 

  

Cyfleoedd Diwrnod Tŷ Rondel

Mae Rondel House yn Wasanaeth Cyfleoedd Dydd integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag anghenion cymhleth wedi eu hasesu, a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru (CTSEW). Yn Hyb Cymunedol Rondel House, Stryd Maes y Cwm, y Barri y mae’r gwasanaeth, ac mae'n darparu gwasanaeth i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg.

 

Mae'r gwasanaeth yn ganolfan ragoriaeth, yn bennaf i gefnogi pobl hŷn sy'n byw gyda Dementia a'u gofalwyr. Mae Tŷ Rondel yng nghanol y Barri a'r nod yno yw cynorthwyo a chyfrannu at gymuned sy'n deall Dementia sy’n datblygu. Ein ffocws yw diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sydd wedi eu hasesu, hyrwyddo a galluogi annibyniaeth barhaus, darparu gwybodaeth, cymorth, cyfleoedd ail-alluogi a gwasanaethau gofal.

  

 

Gwasanaeth Dydd New Horizons

Mae Gwasanaeth Dydd New Horizons yn darparu gwasanaeth dydd i bobl ag anabledd corfforol parhaol/sylweddol, sy'n 18 -65 oed ac sy’n byw ym Mro Morgannwg. Mae'r Gwasanaeth Dydd yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol: Darperir y gwasanaeth gan dîm o staff ymroddedig a phrofiadol. 

 

Mae'r gwasanaeth yn darparu ystod o weithgareddau therapiwtig/creadigol gan gynnwys campfa arbenigol, gwaith coed, celf a chrefft, dosbarthiadau ymarfer corff arbenigol, cerddoriaeth, gweithgareddau cymunedol a chwaraeon. Rydym hefyd yn cynnig gofal personol, eiriolaeth, cymorth ar gyfer cyfathrebu, cymorth emosiynol a seibiant i ofalwyr. Ein nod yw gwella lles pobl drwy wella eu hiechyd, eu bywyd cymdeithasol, eu hannibyniaeth, eu hyder, cynnal a datblygu eu sgiliau a mwynhau bywyd, i gyd mewn amgylchedd cefnogol a chalonogol. 

 

 

 

Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu 

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu, sydd hefyd ag anghenion cymhleth.  

 

Rydym yn gweithio o’r Barri ac yn cynnig cyfleoedd dydd o'n dwy ganolfan, yn ogystal â lleoliadau cymunedol amrywiol, yn gwasanaethu dinasyddion ledled y Fro. 

 

 

 

 

Dewis Cymru Logo Welsh