Cost of Living Support Icon

Rhannu Bywydau

Mae Rhannu Bywydau drefniant lle mae Rhannu Bywydau ofalwyr yn darparu cefnogaeth a llety i oedolion bregus yn ein cymuned.


Mae'r gwasanaeth yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae copi o'n Hadroddiad Arolygu Blynyddol, safonau gofynnol cenedlaethol a rheoliadau ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae ein datganiad o bwrpas yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn.

 

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr y gwasanaeth.

 

Mae copi o'n Hadroddiad Arolwg Blynyddol, safonau gofynnol cenedlaethol a rheoliadau ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae ein Datganiad o Bwrpas yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.

 

  • Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio

    Rhannu Bywydau ar gael ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.

     

    Rydym yn asesu a hyfforddi gwesteiwyr, ac yna'n eu 'paru' gydag unigolion.  Rydym yn monitro lleoliadau fel bod y lletywyr a'r unigolion yn elwa.

     

    Rydym yn cynnig:

    • Lleoliadau hirdymor

    • Lleoliadau byrdymor

    • Lleoliadau Brys am hyd at 28 diwrnod

    • Lleoliadau gofal seibiant

    • Cymorth Ychwanegol (ym Mro Morgannwg yn unig)

  • Pwy mae'r gwasanaeth yn cefnogi

    Rhannu Bywydau ar gael ar gyfer pobl dros 18 oed gydag anableddau dysgu, anableddau corfforol, problemau iechyd meddwl neu dementia, sydd wedi eu hasesu fel rhai sydd ag angen llety a chymorth. 

  • Manteision bod yn westeiwr

    Mae rhai o fanteision bod yn westeiwr yn cynnwys:

    • Ennill bywoliaeth – mae ein gwesteiwyr ar draws y gwasanaethau'n ennill rhwng £424 a £617 fesul pob unigolyn a gefnogir yr wythnos sy'n destun trefniadau treth arbennig. Gall gwesteiwyr gefnogi hyd at 3 unigolyn yn eu cartrefi

    • Bod yn rhan o gynllun cyffrous sydd yn ei hanfod yn helpu pobl i fyw eu bywyd gorau

    • Mynediad i hyfforddiant a datblygiad parhaus 

    • Cymorth parhaus gan Weithiwr Prosiect dynodedig

  • Sut mae hyn yn cefnogi unigolion yn y bywyd y maen nhw'n ei arwain

    Nod Rhannu Bywydau yw cefnogi'r person i ddatblygu'r sgiliau ymarferol, cymdeithasol, ac emosiynol i wneud eu dewisiadau eu hunain mewn bywyd a bod mor annibynnol â phosibl, tra'n parhau i fod yng nghanol eu cymuned.

 

Sut i fod yn westeiwr

Gall unrhyw un dros 18 oed ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg neu Ben-y-bont ar Ogwr wneud cais i fod yn westeiwr.

 

Does dim angen unrhyw gymwysterau na phrofiad o weithio yn y sector gofal (er gall helpu).  Y cyfan sydd ei angen arnoch yw'r gwerthoedd cywir, ymroddiad a ‘stafell sbâr.  Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu gyplau.

 

I ddod yn westeiwr llenwch ffurflen gais:

Bywydau a Rennir Bro Morgannwg

 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn symud ymlaen at asesiad llawn sy'n cynnwys gwiriadau amrywiol.  Ar ôl cwblhau'r asesiad hwn, byddwn yn cyflwyno ein hadroddiad i Banel Cymeradwyo Annibynnol a fydd yn penderfynu a ydyn nhw'n cytuno â ni. Os yw pawb yn cytuno, byddwch yn dod yn westeiwr cymeradwy ac yn cael eich croesawu i'n tîm.

 

Sut i wneud atgyfeiriad i dderbyn gwasanaeth  

Rhaid i chi gael eich atgyfeirio i ddefnyddio'r gwasanaeth.  Mae atgyfeiriadau'n cael eu derbyn gan dimau gwaith cymdeithasol. Os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol cysylltwch â:

  • 01446 700111

 

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn am y Gwasanaeth Lleoliadau Oedolion, cysylltwch â:

  • 01446 731105