Cost of Living Support Icon

Cartref Preswyl Tŷ Dewi Sant

Myrtle Close, Penarth, CF64 3NQ

  • 02920 709331
Ty Dewi Sant exterior
 

Mae Tŷ Dewi Sant yn gartref preswyl un llawr, wedi'i adeiladu'n

bwrpasol ar gyfer pobl hŷn. Mae'n sefyll yn Myrtle Close, sydd wedi'i leoli mewn ardal breswyl sefydledig ym Mhenarth. Mae Penarth yn dref glan môr hyfryd gyda digonedd o siopau, tafarndai a bwytai, ardaloedd parciau braf a Phier ag adnewyddwyd yn ddiweddar.  

Cyfleusterau

Mae gan Tŷ Dewi Sant 33 o ystafelloedd ar gael ar gyfer galwedigaeth sengl.

 

Gall y cartref ddarparu llety, gofal a chymorth i:

  • Bobl hŷn agored i niwed dros 60 oed 

  • Pobl dros 18 oed sy'n byw gyda Dementia

  • Pobl hŷn dros 60 oed sydd ag Anabledd Dysgu

  • Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Salwch Meddwl  

 

 

Cefnogaeth a gwasanaethau

Mae'r gwasanaeth yn medru darparu cefnogaeth gyda:

  • Roi meddyginiaeth bresgripsiwn

  • Gofal personol

  • Chynnal diddordebau personol a datblygu rhai newydd

  • Chael mynediad i weithgareddau hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol

  • Datblygu a chynnal perthynas

  • Cynnal a chynyddu annibyniaeth

  • Chymorth i sicrhau bod anghenion ysbrydol a diwylliannol yn cael eu diwallu.

 

Cyfleusterau Ychwanegol

Nid yw yn darparu gofal nyrsio, ond mae gan breswylwyr fynediad i:

  • Wasanaethau iechyd cymunedol fel Meddyg Teulu

  • Therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd

  • Ddeintydd

  • Optegydd

  • Chiropodydd

  • Nyrs Ardal 

  • Wasanaeth Cymorth Seiciatrig Cymunedol a Dementia

 
Gweld y Datganiad o Ddiben llawn