Cost of Living Support Icon

Cartref Preswyl Tŷ Dyfan

7 St Brides Way, Y Barri, CF63 1DU

  • tydyfan@valeofglamorgan.gov.uk
  • 01446 736086
 

Wedi'i leoli yng nghanol ardal breswyl fawr sefydledig ar yrion Tregatwg, mae Tŷ Dyfan yn gartref preswyl stori ddwbl wedi'i adeiladu yn bwrpasol i bobl hŷn. O flaen yr adeilad mae ardal lawnt laswelltog gyda gwasgariad o goed aeddfed steil-perllan.

 
Mae Tŷ Dyfan yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer ei breswylwyr. Mae gwasanaeth yn seiliedig ar anghenion âg aseswyd a dewisiadau personol.

 

Cyfleusterau

Mae gan Tŷ Dyfan 27 o ystafelloedd gwely sengl, ar gael ar gyfer galwedigaeth sengl ar draws tair uned; Y Bae, Yr Ynys a The Knap.

 

Gall y cartref ddarparu llety, gofal a chymorth i:

  • Bobl hŷn agored i niwed dros 60 oed 

  • Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Dementia

  • Pobl hŷn dros 60 oed sydd ag Anabledd Dysgu

  • Pobl hŷn dros 60 oed sy'n byw gyda Salwch Meddwl  

 

 

Cefnogaeth a gwasanaethau

Mae'r gwasanaeth yn medru darparu cefnogaeth gyda:

  • Roi meddyginiaeth bresgripsiwn

  • Gofal personol

  • Chynnal diddordebau personol a datblygu rhai newydd

  • Chael mynediad i weithgareddau hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol

  • Datblygu a chynnal perthynas

  • Cynnal a chynyddu annibyniaeth

  • Chymorth i sicrhau bod anghenion ysbrydol a diwylliannol yn cael eu diwallu.

 

Cyfleusterau Ychwanegol

Nid yw yn darparu gofal nyrsio, ond mae gan breswylwyr fynediad i:

  • Wasanaethau iechyd cymunedol fel Meddyg Teulu

  • Therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd

  • Ddeintydd

  • Optegydd

  • Chiropodydd

  • Nyrs Ardal 

  • Wasanaeth Cymorth Seiciatrig Cymunedol a Dementia

 
Gweld y Datganiad o Ddiben llawn