Staffnet+ >
Developing a new Digital Strategy: Where are we now?
Datblygu Strategaeth Ddigidol newydd: Beth yw’r sefyllfa nawr?
Ddiwedd mis Ionawr, fe wnaethon ni rannu newyddion mewn erthygl i roi gwybod i chi ein bod yn cymryd y camau cyntaf i ddatblygu Strategaeth Ddigidol a Map newydd ar gyfer y sefydliad. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Socitm.
Ers hynny, mae chwe gweithdy mewnwelediad wedi'u cynnal gyda chydweithwyr o TGCh a gwasanaethau rheng flaen o bob un o'r pum cyfarwyddiaeth i ddeall y ffordd rydyn ni'n defnyddio technoleg ddigidol ar hyn o bryd.
Roedd naw maes allweddol dan sylw er mwyn deall beth sy'n gweithio'n dda, meysydd y gellid eu gwella a chyfleoedd i'r dyfodol.
Ymhlith rhai o'r blaenoriaethau allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r sesiynau hyn mae:
- Pobl, Sgiliau a Diwylliant;
- Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth; ac
- Anghenion defnyddiwr.
Bellach, gwahoddir uwch reolwyr i gymryd rhan mewn Gweithdai Gofynion Digidol i gasglu cipolwg pellach a llywio'r camau nesaf o gyflwyno strategaeth ddigidol newydd.
Unwaith y bydd y gweithdai hyn wedi'u cwblhau bydd Socitm yn dadansoddi'r adborth ac yn rhannu eu hargymhellion gyda'r Cyngor.
Dywedodd Tom Bowring, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol: "Rwy'n falch iawn o sut mae cydweithwyr wedi ymgysylltu â’r broses hon hyd yn hyn. Mae'r holl weithdai wedi mynychu'n dda ac mae'r trafodaethau wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd ein huwch gydweithwyr rheoli yn cael budd o’r gweithdai sydd ar y gweill ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr adborth o'r sesiynau hynny."