Staffnet+ >
Sut mae Mannau Cynnes yn dod â chysur, cysylltiad a chymuned dros y Gaeaf
Sut mae Mannau Cynnes yn dod â Chysur, Cysylltiad a Chymuned i'r Fro dros y Gaeaf
15 Rhagfyr 2025
Wrth i dymereddau dechrau gostwng ar draws Bro Morgannwg, mae rhwydwaith cynyddol o sefydliadau cymunedol, elusennau, llyfrgelloedd, ysgolion a grwpiau gwirfoddoli yn paratoi i agor eu drysau.
Nid yn unig i gynnig cynhesrwydd, ond i greu mannau lle gall preswylwyr deimlo'n gysylltiedig, i dderbyn cefnogaeth a'u croesawu.
Mae rhaglen mannau cynnes y gaeaf hwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhwydwaith dros y blynyddoedd, blaenorol ond mae'n mynd ymhellach na hynny, gan gefnogi ystod eang o fentrau dan arweiniad y gymuned sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigedd, gwella lles a chryfhau gwytnwch lleol.
Gall ymwelwyr â Mannau Cynnes ddisgwyl popeth o brydau cymunedol a boreau coffi i ddosbarthiadau coginio, gweithdai bwyta'n iach, caffis cof a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ddod â chenedlaethau at ei gilydd. Mae sawl prosiect hefyd yn cynnig hyfforddiant mewn hylendid bwyd, maeth neu gyflogadwyedd - gan helpu pobl i fagu hyder a sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i gyrraedd y rhai y gallai fod ei hangen fwyaf, gan gynnwys oedolion hŷn, teuluoedd, gofalwyr, pobl sy'n byw gydag anhawsterau cof ac unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan galedi ariannol.
Dyma cipolwg ar rai o'r mentrau cymunedol gwych sydd ar agor i drigolion:
Gwasanaeth Ieuenctid y Fro - Prosiect yr Hive Guys
Yn ei wraidd, mae Prosiect yr Hive Guys, sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro yn syniad syml, ond pwerus — gan ei fod yn anelu at ddod â phobl ifanc a thrigolion hŷn at ei gilydd o amgylch un bwrdd.
Bob mis, mae pobl ifanc yn cynllunio, coginio a gweini pryd tri chwrs i aelodau hŷn o'r gymuned.
Rhwng hyfforddiant technoleg, gemau atal dementia, chwaraeon cynhwysol a sgyrsiau di-ri, mae'r ddwy genhedlaeth yn ennill rhywbeth ystyrlon. Mae pobl ifanc yn datblygu sgiliau arwain a bywyd, tra bod trigolion hŷn yn mwynhau cwmnïaeth, cefnogaeth ac ymdeimlad o berthyn.
Bydd cyllid newydd yn helpu i ymestyn y gwaith hwn hyd yn oed ymhellach drwy Grŵp Lles Dynion 60+ gyda'r nod o ddod â'r ieuenctid a'r dynion hŷn ynysig at ei gilydd o fewn lle diogel, cymdeithasol i gwrdd dros ddiod boeth, ychydig o fwyd a chyfle i gael cysylltiad go iawn.
Gyda Music In Mind CIC — Cawl a Chymdeithasu yn Y Galon, Y Bont-faen
Yn Y Galon, mae With Music In Mind CIC yn paratoi i lansio digwyddiad Cawl a Chymdeithasu - cynllun peilot deng wythnos sy'n cyfuno bwyd blasus, cynhesrwydd â chwmni cyfeillgar a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar les.
Bydd y sesiynau yn rhad ac am ddim i'w mynychu, gan helpu preswylwyr i reoli pwysau'r argyfwng cost byw tra'n lleihau unigrwydd a chryfhau bondiau cymunedol. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys hyfforddiant gwirfoddolwyr a gwelliannau hygyrchedd newydd, gan sicrhau bod pawb yn teimlo'n gallu cymryd rhan.
Grŵp Cymunedol Penarth — Cymorth Cymunedol
Mae Grŵp Cymunedol Penarth yn darparu lle cynnes newydd, gan gynnig prydau poeth i'w cymryd adref, lluniaeth, gweithgareddau cymdeithasol a chyngor ar fudd-daliadau a chostau ynni.
Mae'r grŵp hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd i wirfoddolwyr chwarae rôl ganolog, gan helpu cymdogion i gefnogi ei gilydd drwy heriau'r gaeaf.
Hwb CF61, Llanilltud Fawr
Mae Hwb CF61 yn Llanilltud Fawr yn gartref i nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cynnig mynediad i drigolion at amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ymarferol, tra'n annog cyfleoedd i gael cysylltiad a chyfeillgarwch.
Fel y dywedodd Paul Warren, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg: “Wrth wraidd Llanilltud Fawr, mae Canolfan Gymunedol CF61 yn cynnig mwy na chynhesrwydd - mae'n lle i bobl cysylltu, rhannu, a chefnogi ei gilydd.
“Mae'r rhaglen Mannau Cynnes wedi bywiogi'r gymuned gyda sesiynau am ddim fel Tai Chi Qigong Shibashi, Pilates, ac Awr Gymdeithasol gan ddod â phobl at ei gilydd mewn ffyrdd ystyrlon. Mae'r mannau a'r gweithgareddau croesawgar hyn yn helpu pobl o bob oed i ffynnu, gan adael gydag ymdeimlad o gysylltiad, lles a pherthyn.
“Mae CF61 wedi dod yn ganolbwynt annatod, gyda'r fenter Mannau Cynnes yn ategu digwyddiadau presennol fel, ein prosiect garddio, yr Hwb Mwy na Bwyd misol, a sesiynau grŵp lleol rheolaidd - gan adeiladu cymuned gryfach, mwy cysylltiedig.”
Y tu ôl i bob un o'r prosiectau uchelgeisiol hyn mae ymrwymiad i sicrhau nad oes neb yn y Fro yn teimlo ar ei ben ei hun, heb gefnogaeth neu heb le cynnes i fynd y gaeaf hwn, ac ni fyddai unrhyw un o'r gwasanaethau a'r cyfleoedd hyn yn bosibl heb waith caled ac angerdd anhygoel ein staff, partneriaid a thrigolion.
Mae lleoedd o gynhesrwydd a chysylltiad fel y Rhwydwaith Mannau Cynnes yn cyfrannu at gymunedau iachach, hapusach a mwy cysylltiedig ledled y Fro ac yn eu tro yn dangos sut rydym yn rhoi ein gwerthoedd ar waith drwy gefnogi ac amddiffyn y rhai sydd eu hangen arnom - yn enwedig yn ystod mis hir y gaeaf.