Staffnet+ >
Parti Nadolig Bywydau a Rennir 2025
Parti Nadolig Bywydau a Rennir - Noson i'w Chofio!
04 Rhagfyr 2025
O ffrogiau llachar i siwmperi Nadoligaidd, roedd tafarn y Colcot Arms yn llawn lliw, chwerthin a dathlu wrth i ofalwyr, cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth ddod at ein gilydd ar gyfer Parti Nadolig Bywydau a Rennir.
Daeth Cynllun Bywydau a Rennir Bro Morgannwg i fodolaeth dros 20 mlynedd yn ôl, gan gefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion gan gynnwys anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth, anghenion iechyd meddwl a dementia.
Mae ein gofalwyr yn croesawu pobl i mewn i'w cartrefi eu hunain, gan gynnig cymorth mewn amgylchedd diogel.
Mae'r nod bob amser yr un peth: helpu pob person i fyw ei fywyd gorau, ei ffordd ei hun wrth aros yn gysylltiedig â'u cymunedau, meithrin hyder, hyrwyddo annibyniaeth a datblygu sgiliau newydd.
Roedd hi'n noson wirioneddol arbennig, ac yn ffordd wych o ddechrau tymor yr ŵyl.
Diolch i'n cydweithwyr a gofalwyr Bywydau a Rennir a wnaeth y noson mor gofiadwy.