Y Pod yn cefnogi miloedd o breswylwyr yn 2025

18 Rhagfyr 2025

Ers lansio ym mis Tachwedd 2023, mae’r Pod wedi croesawu dros 5,000 o bobl, gan ddod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer cymorth, meithrin sgiliau a chysylltiad cymunedol ledled Bro Morgannwg.

Trwy ddod ag ystod eang o wasanaethau o dan un to, mae’r Pod wedi'i gynllunio o amgylch yr hyn y mae pobl wirioneddol ei angen, gyda phobl wrth wraidd popeth maent yn ei wneud. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth cyflogaeth ac iechyd meddwl, canllawiau tai, hyfforddiant digidol a datblygu sgiliau hanfodol - gan sicrhau y gall unigolion gael y cymorth cywir ar yr adeg iawn.

The Pod April 2025 welshMae'r gwasanaethau a ddarperir gan Y Pod yn cynnwys:

  • Sesiynau galw heibio CV wythnosol
  • Banc bwyd parhaol
  • Sesiynau cymorth rheolaidd dan arweiniad partneriaid
  • Cymorth niwroamrywiaeth un-wrth-un
  • Gwaith allgymorth i sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd pobl ledled y Fro

Rhwng Ebrill a Tachwedd 2025, Roedd Y Pod wedi:

  • Croesawu 2,478 o bobl
  • Cofrestru 589 o unigolion ar raglen CELT+ i gael cymorth 
  • Cefnogi 59 o bobl i gael Gwaith
  • Cyrraedd 469 o unigolion newydd
  • Helpu 63 o bobl i ennill cymhwyster neu gwblhau cwrs

 

Mae'r Pod yn gweithio'n agos gydag ystod eang o sefydliadau partner sy'n darparu cefnogaeth yn uniongyrchol o'r ganolfan, gan helpu i sicrhau gwasanaethau di-dor a chydgysylltiedig i'r gymuned. 

Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Busnes Cymru, Scope, Banc Bwyd y Trussell Trust, Pobl, DWP, Mind, Llamau, Dysgu Cymunedol i Oedolion, Dysgu Oedolion Cymru, Cyfle Cymru, a llawer mwy.

the pod outsideAdlewyrchir gwir effaith Y Pod orau yn yr adborth gan y rhai maent yn eu cefnogi. 

Rhannodd un cyfranogwr: “Heb eich help chi, byddai fy mreuddwydion wedi aros yn union hynny - breuddwydion. Rydych chi wedi gwneud yr holl wahaniaeth.”

Dywedodd un arall: “Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar am y gefnogaeth rydych chi wedi'i darparu i fy helpu i symud ymlaen i fy ngyrfa newydd - hebddo, byddwn i wedi cael trafferth gwirioneddol.”

Mae adborth fel hyn yn atgyfnerthu'r gwahaniaeth mae’r Pod yn parhau i wneud ac yn ysgogi pawb sy'n gysylltiedig i barhau i dyfu, gwella, a chefnogi ein cymuned bob cam o'r ffordd.