Record y Byd yn y Makerspace yn disgleirio ar y BBC 

10 Rhagfyr 2025

Max Baker on BBC NewsEfallai bod llawer ohonoch eisoes yn gyfarwydd â chyflawniad eithriadol un o'n preswylwyr ieuengaf - Max Baker - a ddaeth yn ddatblygwr gemau fideo gwrywaidd ieuengaf y byd yn gynharach eleni. 

Ond yr wythnos diwethaf cafodd ei gyflawniad - a'r rôl a chwaraeodd y Cyngor wrth ei helpu i'w gyrraedd - sylw croesawus ar lwyfan llawer mwy pan gyhoeddodd BBC Cymru gyfweliad gyda Max.

Roedd yr eitem nid yn unig yn dathlu creadigrwydd Max, ond rhoddodd sylw cryf i’r Makerspace yn Llyfrgell Penarth. 

Drwy gydol y darn, amlygodd y BBC sut y rhoddodd y gofod fynediad i Max i ddefnyddio’r offer, y gefnogaeth a'r amgylchedd yr oedd eu hangen arno i arbrofi, dysgu ac yn y pen draw, i greu'r gêm a helpodd i sicrhau ei Record Byd Guinness.

Mae cael un o'n gwasanaethau yn cael ei arddangos mor amlwg gan ddarlledwr cenedlaethol yn gyflawniad ynddo'i hun ac mae'r cyfweliad yn dangos gwir pwrpas y Makerspace.

Sef rhoi cyfleoedd ymarferol i drigolion - yn enwedig pobl ifanc – i archwilio sgiliau digidol, dod â syniadau yn fyw a darganfod hoffterau newydd a allai arwain at yrfaoedd gydol oes.

Ymhell o fod yn stori lwyddiant untro, mae taith Max yn dangos potensial ein cyfleusterau i ysbrydoli arloesedd lleol, meithrin talent ac agor drysau i bobl sydd heb fynediad fel arall at offer neu arweiniad arbenigol. 

Diolch enfawr i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu, rhedeg a chefnogi’r Makerspace - mae'n hyfryd gweld eich effaith yn cael ei gydnabod mor eang!