Staffnet+ >
Cymuned yn uno ar gyfer Digwyddiad Mis Balchder Anabledd
Cymuned yn uno ar gyfer Digwyddiad Mis Balchder Anabledd
18 Gorffennaf 2025
Ymunodd cydweithwyr y Fro â'r gymuned i nodi Mis Balchder Anabledd gyda seremoni codi baner y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri ddydd Llun.
Daeth y digwyddiad — a drefnwyd gan Faer Bro Morgannwg - ag aelodau o'r gymuned ynghyd, gan gynnwys grŵp o drigolion o Wasanaeth Dydd ValePlus — cynrychiolwyr o'r elusen Mind, a staff y Cyngor i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r profiadau amrywiol o fewn y gymuned anabl.
Mae Mis Balchder Anabledd yn gyfle hanfodol i annog sgyrsiau agored am anabledd, hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth, ac amlygu pwysigrwydd hygyrchedd a chysylltiad.
Yn dilyn y sermoni codi'r faner, ymgasglodd y mynychwyr am luniaeth y tu mewn i'r Swyddfeydd Dinesig i fwynhau cyfle i gysylltu â'i gilydd a myfyrio ar Fis Balchder Anabledd.
Ymgynnullodd aelodau a chynghreiriaid Abl - rhwydwaith staff anabledd y Cyngor - ddydd Llun hefyd i nodi Mis Balchder Anabledd, a ddaeth i ben gyda chyfarfod rhwydwaith yn Ystafell Dunraven yn y Swyddfeydd Dinesig.
Nod Rhwydwaith Abl yw hyrwyddo staff ag anableddau, darparu gwybodaeth a chymorth, ac yn codi ymwybyddiaeth i feithrin gweithle mwy hygyrch.
Mae Abl hefyd yn croesawu ac yn annog cydweithwyr i gymryd rhan fel cynghreiriaid i ddangos eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i adeiladu amgylchedd mwy cefnogol a dealltwriaethol i bawb.
Am ragor o wybodaeth am Abl, neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith — cliciwch yma.