Camwch i’r Ardd o Straeon wrth i Her Ddarllen yr Haf Dychwelyd!

07 Gorffennaf 2025

Mae Her Ddarllen flynyddol yr Haf yn ôl, gan lansio eleni ar draws holl ganghennau llyfrgell Bro Morgannwg! 

Mae thema eleni, yr Ardd o Straeon, yn dathlu'r cysylltiad hudol rhwng adrodd straeon a'r byd naturiol. Mae'n cynnig cyfle gwych i dynnu sylw at lyfrau yn ein llyfrgelloedd sy'n archwilio natur, creadigrwydd a dychymyg.

SG promo posterYmhlith y teitlau gwych eleni mae The Ocean Gardener gan Clara Anganuzzi - stori wedi ei darlunio'n hyfryd sy'n plymio'n ddwfn i ddirgelion y byd tanddwr, BOING! A Bouncy Book of Bugs gan James Carter - darlleniad bywiog a rhyngweithiol am y creaduriaid bychain sy'n suo o'n cwmpas, a The Edge of The Silver Sea gan Alex Mullarky - antur hudolus sy'n llawn dirgelwch a hud lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr.

O 5 Gorffennaf ymlaen, gall blant gofrestru mewn unrhyw lyfrgell a derbyn ffolder i gofnodi eu cynnydd. Am bob dau lyfr y maent yn eu darllen ac yn dychwelyd, byddant yn ennill sticeri fel gwobrau hwyliog. 

Bydd y rhai sy'n darllen chwe llyfr neu fwy yn cael medal a thystysgrif cyflawniad.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â'n trigolion ieuengaf drwy gydol gwyliau'r haf drwy annog cariad at ddarllen a chefnogi datblygiad llythrennedd y tu allan i'r ysgol.

Mae Jordan Forse, Rheolwr Llyfrgell a Gwasanaethau Diwylliannol y Fro, wedi cychwyn ar ei antur yn yr Ardd Stori ei hun yr haf hwn. Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddarlleniadau cyffrous o rhai o'r llyfrau o'r rhestr ddarllen eleni mewn lleoliadau ledled y Fro!

Am ragor o wybodaeth am Her Ddarllen yr Haf, cliciwch yma.