Cost of Living Support Icon

Her Ddarllen Haf 2026

Ymunwch â Her Ddarllen yr Haf - Darllenwch chwe llyfr yr haf hwn gyda'r Canu'r Cyfrolau ac ennillwch gwobrau gwych!

 Read to the Beat Banner CYMRAEG 

Book Stack - LargeBook Stack - Medium

Paratowch ar gyfer Canu’r Cyfrolau, yn cyrraedd ar-lein ac yn eich llyfrgell leol yr haf hwn.

 

Mae Llyfrgelloedd Bro Morganwg yn gwahodd teuluoedd ledled y Fro i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2026, i annog plant i ddarllen er mwyn pleser yn ystod gwyliau'r ysgol. Thema eleni yw Canu'r Cyfrolau! Mae'r thema'n dathlu llawenydd cerddoriaeth a'r pŵer sydd ganddi i symud, ysbrydoli a chysylltu pobl - a hynny i gyd trwy hud darllen.

 

Yn dechrau ar 4ydd Gorffennaf yng Nghymru a Lloegr, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gwahodd plant 4–11 oed i ymweld â’u llyfrgell leol, darganfod llyfrau newydd, a mwynhau haf llawn hwyl, dychymyg ac ysbrydoliaeth gerddorol.

 

Mae’r Sialens eleni yn cael ei bywiogi gyda darluniau gan yr awdur a'r darlunydd arobryn, Harry Woodgate.

 

Gall plant gasglu pecynnau gweithgareddau am ddim, cymryd rhan mewn digwyddiadau ar thema gerddoriaeth, a benthyca llyfrau a ddewiswyd yn arbennig – pob un wedi'i gynllunio i'w cadw'n chwilfrydig, yn egnïol, ac yn ymgysylltu â darllen dros wyliau'r haf.

 

Ydych chi'n edrych ymlaen at ymuno â'r #CanurCyfrolau yr haf hwn? Galwch heibio'ch llyfrgell leol neu ewch i wefan swyddogol y Sialens Ddarllen yr Haf i ymuno!

 

Sialens Ddarllen yr Haf 2026: Canu’r Cyfrolau a gyflwynir gan The Reading Agency ac a gynhelir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd.

Holl hawlfraint © The Reading Agency [Yr Asiantaeth Ddarllen] 2026

#SialensDdarllenyrHaf