Arolwg Teithio Staff
Bob blwyddyn, ynghyd â holl gyrff Sector Cyhoeddus Cymru, mae'n rhaid inni roi gwybod am ein hallyriadau carbon i Lywodraeth Cymru.
Sut mae staff yn teithio i'r gwaith ac o'r gwaith yw un o'r cyfranwyr uchaf i'n hôl troed carbon sefydliadol.
Mae adrodd am ein hallyriadau carbon yn ein helpu ni a Llywodraeth Cymru i olrhain ein cynnydd tuag at y nod o gyrraedd sero net erbyn 2030.
Wrth i ni barhau i gefnogi teithio llesol a hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, bydd yr arolwg hwn hefyd yn ein helpu i ddeall arferion cymudo staff presennol a lle y gallai fod angen mwy o gefnogaeth i wneud ein cymudwyr yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.
Cymerwch 3 munud i ddweud wrthym am sut y gwnaethoch chi deithio i'r gwaith ac o'r gwaith rhwng Ebrill 2024 ac Ebrill 2025:
Cwblhewch yr arolwg byr
Cynllun Teithio Cyngor Bro Morgannwg
Nod Cynllun Teithio y Cyngor yw cynorthwyo staff i ddewis dulliau teithio cynaliadwy ar gyfer eu taith i'r gwaith.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i ostwng ei ôl troed carbon ar Hyb Prosiect Zero.
