Dweud Eich Dweud: Helpwch i Lwybrau Teithio Llesol y Fro yn y Dyfodol

Ar hyn o bryd mae ein Tîm Teithio Llesol yn diweddaru Map Rhwydwaith Teithio Llesol Bro Morgannwg, y cynllun sy'n tywys sut mae llwybrau cerdded, olwynion a beicio yn cael eu datblygu ar draws y sir. Ac rydym eisiau eich mewnbwn!

Mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu ei lwybrau teithio llesol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Cefnogir y gwaith pwysig hwn gan arian penodol gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu i sicrhau bod ein llwybrau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar:

  • Llwybrau presennol — Beth sy'n gweithio'n dda, a beth y gellid ei wella?
  • Llwybrau yn y dyfodol neu arfaethedig — Ble ydych chi'n meddwl bod angen cysylltiadau newydd?
  • Lleoedd y mae angen bod yn fwy diogel neu'n haws teithio drwyddynt — P'un a ydych chi'n cerdded, yn olwyno neu'n beicio.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio rhwydwaith sy'n cefnogi dewisiadau teithio iachach i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â'r Fro.

Dweud eich dweud