Gwasanaeth Diwrnod y Llynges Fasnachol - 3 Medi

24 Awst 2026

Eleni, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol yn disgyn ar y 3 Medi, diwrnod i goffáu'r holl forwyr o'r gorffennol a'r presennol. Bydd y cyngor yn cynnal gwasanaeth i anrhydeddu a dathlu'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol a'r Lluoedd Arfog ehangach. Nid yn unig ydy e'n bwysig dangos cefnogaeth iddyn nhw yn gyfan, ond hefyd tynnu sylw at ymroddiad gwasanaeth gan bobl o fewn y Fro.
 

Cynhelir y gwasanaeth yn Fourecourt y Swyddfa Ddinesig am 11:00, ond gofynnir yn garedig i westeion gyrraedd erbyn 10:45 er mwyn caniatáu amser ar gyfer paratoadau cyn i'r gwasanaeth ddechrau. Bydd yn achlysur o ddathlu a choffáu, gan y bydd y maer yn bresennol ynghyd ag aelodau pwysig eraill o gymuned ehangach y Lluoedd Arfog.
 

Bydd baner y Llynges Fasnachol yn cael ei chodi wrth flaen y Swyddfeydd Dinesig i nodi'r achlysur. Mae croeso i bawb ymuno â'r gwasanaeth fel ffordd i ddod at ei gilydd a thalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl, ond hefyd ein cymuned yma yn y Fro. Bydd eich presenoldeb yn cael ei gwerthfawrogi fel ffordd i ddathlu ac anrhydeddu aelodau'r Llynges Fasnachol o Fro Morgannwg, a'r aberth y maent wedi'u gwneud wrth wasanaethu'r genedl.