Staffnet+ >
Dysgwyr Cymraeg Llyfrgell Sili yn ennill Grwp y Flwyddyn
Dysgwyr Cymraeg Llyfrgell Sili yn ennill Grŵp y Flwyddyn

Mae grŵp Cymraeg yn Llyfrgell Sili wedi cael dyfarniad 'Grŵp Cymraeg y Flwyddyn' gan Brifysgol Aberystwyth am 2025-26.
Mae'r grŵp, Coffi a Chlonc, yn rhedeg bob bore dydd Iau ac mae'n le i drigolion ymarfer eu sgiliau Cymraeg mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Daw’r wobr yn dilyn dathliadau diweddar y llyfrgell i nodi deng mlynedd ers iddi ddod yn gyfleuster sy’n cael ei redeg gan y gymuned.
Derbyniodd Sian Adams, sylfaenydd y grŵp, y wobr yn Eisteddfod y Garreg Las yn gynharach y mis hwn. Drwy gydnabod y cyflawniad hwn, mae wedi tynnu sylw at y Fro fel lle sydd nid yn unig yn hyrwyddo ei hunaniaeth ddwyieithog ond yn hyrwyddo'r Gymraeg i ddysgwyr a siaradwyr rhugl fel ei gilydd.
Llongyfarchiadau enfawr i'r tîm yn llyfrgell Sili a phawb sy'n mynychu grŵp Coffi a Chlonc. Os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod diddordeb mewn mynychu, gweler yr amserlen ar gyfer grwpiau dysgwyr Cymraeg ar draws y Fro ar gyfer 2026.
Llongyfarchiadau eto!