Mainc Er Cof Byw wedi'i osod ym Mharc Penarth

09 Chwefror 2026

Mae mainc goch wedi'i dadorchuddio ym Mharc Alexandra ym Mhenarth fel rhan o ymgyrch Er Cof Byw Sefydliad Prydeinig y Galon — menter genedlaethol sy'n dathlu pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r galon ac yn goroesi yn hytrach na'r fainc “goffa” draddodiadol. 

Parks Team Red BenchMae'r fainc a osodwyd yn y parc yn anrhydeddu preswylydd lleol Rhys Edwards, a oroesodd gymhlethdod difrifol ar y galon ac sydd bellach yn rhannu ei brofiad i godi ymwybyddiaeth o iechyd cardiofasgwlaidd. 

Yn hytrach na gosod mainc newydd sbon, aeth ein Tîm Parciau ein hunain ati i adnewyddu ac ail-baentio'r fainc mewn coch fel atgof parhaol o'i stori a'i neges i'r rhai sy'n wynebu pryderon tebyg ac mae'n un o'r feinciau Er Cof Byw gyntaf i'w chyflwyno yng Nghymru.

Tra ar daith waith i Efrog Newydd, daeth Rhys Edwards yn sâl iawn ac roedd ei galon mewn trallod oherwydd firws prin. Cafodd driniaeth frys a threuliodd bron i bythefnos mewn uned gofal cardiaidd cyn iddo allu dychwelyd adref a dechrau gwella. 

Mae ei brofiad wedi ei wneud yn angerddol am godi ymwybyddiaeth o gyflyrau calon ac mae'n gobeithio y bydd y fainc newydd yn helpu i annog sgyrsiau am iechyd y galon yn y gymuned.

Mae mwy na 400,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd - a phob tri munud, mae rhywun yn y DU yn marw o'r cyflwr.

Penarth Red BenchBob blwyddyn, mae mwy na 2,000 o bobl yn cael peiriant calon, sy'n helpu i reoli cyfradd curiadau a/neu rhythmau annormal y galon.

Dywedodd Rhodri Thomas, pennaeth BHF Cymru: “Mae stori Rhys yn dangos gwir realiti byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd, ac rydym mor ddiolchgar eu bod yn rhannu eu profiadau yn ddewr i helpu eraill.”

“Er ei fod yn un o laddedigion mwyaf y DU, mae clefyd cardiofasgwlaidd yn dal i gael ei gamddeall neu ddim yn cael ei gymryd o ddifrif — a gall y rhai sy'n byw gydag ef wynebu barn a heriau.”

“Drwy rannu straeon pobl sy'n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd ar ein meinciau coch eiconig ledled y DU, rydym yn gobeithio dechrau mwy o sgyrsiau sy'n newid camsyniadau peryglus.”