Penodi Trevor Baker yn Gyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd a Thai

09 Ionawr 2026

Trevor BakerMae Trevor Baker wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Amgylchedd a Thai newydd y Cyngor ar sail dros dro yn dilyn Pwyllgor Penodiadau Uwch Reolwyr.

Bydd Trevor yn ymgymryd â'r rôl ddydd Llun 2 Chwefror 2026 a bydd yn y rôl am gyfnod o hyd at 18 mis. 

Daw hyn ar adeg gyffrous i'r Gyfarwyddiaeth wrth iddi geisio meithrin momentwm ar draws ystod o wasanaethau er budd cymunedau ledled y Fro. 

Mae trawsnewid parhaus y gwasanaethau rheng flaen hyn yn hollbwysig i lwyddiant y Cyngor a'r perthnasoedd hanfodol rydym yn eu hadeiladu gyda'n cynghorau tref a chymuned, ein partneriaid a'n trigolion. 

Mae'r ffordd yr ydym yn parhau i addasu a newid wrth ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen hyn yn rhan gyffrous o'r Rhaglen Aillunio wrth i ni edrych ar wahanol fodelau gweithredu a thrawsnewid gwasanaethau.

Yn y cyfamser, bydd Trevor yn parhau yn ei rôl bresennol fel Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau o fewn Dysgu a Sgiliau hyd at 2 Chwefror ac mae trefniadau yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i geisio dod o hyd i rywyn gymryd y rol ymlaen dros dro, fel secondiad neu am dymor penodol i'w swydd bresennol o'r dyddiad hwnnw. 

Dywedodd y Prif Weithredwr Rob Thomas: “Mae Trevor yn dod a phrofiad ac arbenigedd sylweddol wrth foderneiddio a rheoli newid, ar ôl bod yn rhan o nifer o fentrau sydd wedi dod â dulliau darparu gwasanaethau newydd i nifer o wasanaethau megis arlwyo, llyfrgelloedd a dysgu cymunedol. Bydd y profiad hwn yn amhrisiadwy wrth iddo weithio gyda chydweithwyr ar draws y Gyfarwyddiaeth a thu hwnt. 

“Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno gyda fi i longyfarch Trevor ar ei benodiad a byddaf yn dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”