Staffnet+ >
Tîm Cofrestru ar ei Anterth yn Ystod Tymor Priodasau
Tîm Cofrestru ar ei Anterth yn Ystod Tymor Priodasau
03 Awst 2026
Er y gall rhai gwasanaethau brofi cyfnod tawelach yn ystod misoedd yr haf, mae'n hollol i'r gwrthwyneb i'r Gwasanaeth Cofrestru.
Ar hyn o bryd mae ein tîm yn mynd i mewn i'r rhan brysuraf o'r tymor priodasau, gyda chofrestrwyr yn mynychu seremonïau ledled Bro Morgannwg bob wythnos.

Mae'r tîm – gan gynnwys staff a chofrestrwyr rhyddhad yn y swyddfa - yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau cymeradwy, gan gynnwys Fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr, Castell Hensol a Phafiliwn Pier Penarth, gan helpu cyplau i ddathlu un o ddyddiau pwysicaf eu bywydau.
Mae llawer o seremonïau yn cael eu trefnu hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw ac fe'u cydlynir yn ofalus gan y Tîm Seremonïau, o'r ymholiad cychwynnol hyd at ddiwrnod y briodas ei hun.
Ar y diwrnod, mae dau aelod o'r Tîm Cofrestru yn mynychu pob seremoni i gynnal a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
Mae proffesiynoldeb, cynhesrwydd a sylw i fanylion y tîm yn cael eu cydnabod yn rheolaidd gan gyplau a'u teuluoedd. Mae'r adborth yn gyson ardderchog, gan adlewyrchu'r gofal a'r ymroddiad a ddangosir gan gofrestrwyr ym mhob seremoni.
Dywedodd un cwpl, Oliver a Lauren Rees: “Byddwn yn ddiolchgar am byth ein bod wedi priodi gan y cofrestrwyr gorau yng Nghymru (a thu hwnt!!). Diolch i chi am wneud hyn yn arbennig i ni. Byddwn yn cofio'r diwrnod arbennig hwn am byth.”

Rhannodd Lyndon Walker, Tad y Briodferch: “Fedrai’m diolch digon iddyn nhw am eu proffesiynoldeb a'u cyfeillgarwch i ni i gyd. Plis trosglwyddwch fy niolch iddyn nhw. Byddwn yn rhoi geirda iddyn nhw unrhyw bryd. Roedd yr holl ddiwrnod yn ardderchog a dechreuwyd gan ddwy cofrestrydd ragorol. Diolch i chi.”
Dywedodd cwpl arall - Mr a Mrs Williams-Margetson – y canlynol: “Roedd y ddwy mor hyfryd ac yn gwneud i fy mhartner a minnau deimlo'n gwbl gartrefol wrth gadw rhediad y gwasanaeth mor llyfn. Ni allwn fod wedi gofyn am well. Roedd y ddwy mor garedig i ni, cwpl ifanc nerfus, ac ni allem fod yn fwy diolchgar.”
Fodd bynnag, nid yw pob seremoni yn ddathliadau yn yr ystyr draddodiadol. Mae rhai yn achlysuron emosiynol iawn sy'n gofyn am dosturi, proffesiynoldeb a sensitifrwydd.
Mae'r tîm yn cefnogi priodasau Trwydded y Cofrestrydd Cyffredinol yn rheolaidd, gan gynnwys seremonïau a gynhelir wrth ochr gwely unigolion sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cofrestrwyr wedi mynychu sawl seremoni yn Hosbis Marie Curie, gan helpu i gyflawni dymuniad olaf person i briodi.
Os ydynt yn dathlu dechreuadau newydd neu'n helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr yn ystod cyfnod anodd, mae'r Gwasanaeth Cofrestru yn ystyried hynny yn fraint bod yn rhan o eiliadau mor arwyddocaol ym mywydau pobl.
Mae'r sylwadau hyn yn cynrychioli detholiad bach yn unig o'r adborth a dderbyniwyd gan y tîm ac maent yn brawf o'r gwasanaeth rhagorol y maent yn ei ddarparu bob dydd ar draws y Fro.