Mae'r Mynegai yn Dathlu Cyhoeddiad Ei 50fed Cylchlythyr

20 Gorffennaf 2026

 

Mae'r Mynegai ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda chyhoeddi 50fed rhifyn Cylchlythyr Y Mynegai.

Wedi’i gynhyrchu gan Swyddog Y Mynegai, Lyndsey Richards, gyda chefnogaeth y Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu blynyddoedd o ymroddiad i sicrhau bod teuluoedd ledled Bro Morgannwg yn derbyn gwybodaeth amserol, berthnasol a hygyrch am wasanaethau lleol, cymorth, gweithgareddau a chyfleoedd.

 

Mae cyrraedd 50 rhifyn yn dystiolaeth o’r gwaith partneriaeth helaeth a’r ymgysylltu sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Mae pob cylchlythyr yn dwyn ynghyd gyfraniadau gan ystod eang o sefydliadau a gwasanaethau, gan helpu teuluoedd i aros yn wybodus ac yn gysylltiedig drwy gydol eu taith - boed hynny wrth aros am asesiad, wrth lywio diagnosis, neu wrth chwilio am gymorth lleol.
 

Mae’r cylchlythyr, ynghyd â’r e-fwletinau rheolaidd, wedi dod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i deuluoedd. Mae rhieni a gofalwyr yn aml yn dweud wrthym gymaint y maent yn gwerthfawrogi derbyn diweddariadau’n uniongyrchol, gan eu helpu i gael mynediad at gymorth, darganfod cyfleoedd a theimlo’n llai unig.
 

Dywedodd Lyndsey Richards:
 

"Mae’n bleser darparu gwybodaeth i deuluoedd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau. Drwy fy mhrofiad byw fy hun, rwy’n deall y gall llywio gwasanaethau cymorth deimlo’n llethol ar brydiau, ac rydym yma i helpu pryd bynnag y gallwn.
Gall rhieni a gofalwyr deimlo’n unig yn aml, ac yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol, felly gall estyn llaw, eu cysylltu â chymorth, a’u hatgoffa nad ydynt ar eu pen eu hunain wneud gwahaniaeth enfawr. Mae cyrraedd ein 50fed rhifyn yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth wych ein partneriaid a’n cydweithwyr."

Mae Lyndsey hefyd yn estyn ei diolch i Jeanette Hodgetts, Dylunydd Graffig, y mae ei chreadigrwydd a’i harbenigedd ym maes dylunio wedi helpu i ddod â phob rhifyn o’r cylchlythyr yn fyw, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd ddeniadol a hygyrch i deuluoedd, ac i Becky Wickett, Rheolwr y Tîm Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol, am ei chefnogaeth a’i hanogaeth amhrisiadwy wrth helpu’r cylchlythyr i gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon.
 

Mae’r garreg filltir hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall cydweithio ei chael wrth helpu preswylwyr i gael y wybodaeth gywir ar yr amser cywir.
Ariannir Y Mynegai gan y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru.
Llongyfarchiadau i Lyndsey a phawb sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y garreg filltir wych hon