Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn Myfyrio ar Fis Balchder Llwyddiannus

YS Pride 1Drwy gydol mis Mehefin, roedd Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn falch o gefnogi Mis Balchder 2026 trwy fynychu digwyddiadau ledled y rhanbarth, gan greu mannau croesawgar, cynhwysol i bobl ifanc a dathlu amrywiaeth o fewn ein cymunedau.

Cymerodd y tîm ran mewn tri digwyddiad Balchder, gan ymgysylltu â mwy na 200 o bobl ifanc trwy ystod o weithgareddau creadigol, lles ac ymgysylltu ieuenctid.

Yn y Barri Pride ar 6 Mehefin, bu Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnal Parth Ieuenctid pwrpasol, gan cynnwys gemau awyr agored, crefftau, gweithgareddau lles a lle oeri allan. Gweithiodd y tîm gyda mwy na 100 o bobl ifanc yn ystod y digwyddiad, gan ddarparu cyfleoedd i gysylltu, cael hwyl a chael mynediad at gymorth mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.

Ar 13 Mehefin, ymunodd y tîm â chydweithwyr o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac mudiad Effaith yn Pride Cymru yng Nghaerdydd. Gyda'i gilydd, fe wnaethant groesawu 52 o bobl ifanc i'r Parth Ieuenctid, gan gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar thema Balchder gan gynnwys gwneud baneri, gwneud breichledau ac addurno calonnau poced ar thema Balchder.

Daeth y mis i ben yn y Bont-faen ar 28 Mehefin, lle ymunodd y tîm â Rhwydwaith GLAM am frecwst rhwydweithio yn Llyfrgell y Bont-faen cyn cymryd rhan yn yr orymdaith Balchder yno.

YS Pride 2Drwy gydol y dydd, fe wnaethant ymgysylltu â thua 50 o bobl ifanc, gan hyrwyddo clybiau ieuenctid ac annog rhai o oedran cymwys i gymryd rhan gyda chyfleoedd sydd ar gael drwy Wasanaeth Ieuenctid y Fro.

Wrth edrych yn ôl ar Fis Balchder, rhoddodd y digwyddiadau gyfleoedd gwerthfawr i ddathlu amrywiaeth a dangos ymrwymiad parhaus Gwasanaeth Ieuenctid y Fro i greu mannau diogel, croesawgar a chynhwysol i bawb.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau Balchder eleni a’u wneud yn gymaint o lwyddiant, ac am gynrychioli'r Fro gyda chymaint o frwdfrydedd, proffesiynoldeb a balchder.