Staffnet+ >
Danielle Loughman yn Chwalu Marathon Llundain
Danielle Loughman yn Chwalu Marathon Llundain
11 Mai 2026
Llongyfarchiadau i Danielle Loughman, Peiriannydd Cynorthwyol mewn Priffyrdd, a gwblhaodd Marathon Llundain yn llwyddiannus mewn amser hynod trawiadol o 5 awr a 14 munud.
Roedd Danielle wedi bwriadu cymryd rhan y llynedd yn wreiddiol ond gohiriodd ei lle oherwydd anaf. Ar ôl misoedd o adferiad a hyfforddiant, dychwelodd eleni yn heini ac yn barod i ymgymryd â'r her.
Canmolodd Wendy Smith, sy'n gweithio gyda Danielle, ei chyflawniad a'i hymroddiad:
“Fe wnes i gwblhau Marathon Llundain yn 2015, felly roeddwn i'n teimlo fy mod wedi bod drwy'r daith gyda hi, yr holl hyfforddiant a'r ras.
“Rydym i gyd mor falch ohonoch chi Danielle, cyflawniad mor anhygoel a fydd yn atgof a fydd gyda chi am byth.”
Mae cwblhau'r marathon yn gamp ardderchog - llongyfarchiadau Danielle!