Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia

18 Mai 2026

Rydym yn falch o wahodd staff i ymuno â digwyddiad IDAHOBIT ar ddydd Mercher 20 Mai.

Beth yw IDAHOBIT?

IDAHOBIT2026-theme-English

Mae IDAHOBIT (Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia) yn cael ei ddathlu'n flynyddol ar 17 Mai ac mae'n fenter fyd-eang sy'n codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu, trais, a'r heriau y mae cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu ledled y byd.

Thema IDAHOBIT eleni yw: Wrth Galon Democratiaeth

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Rhwydwaith Staff LHDT+ Cyngor Caerdydd a bydd yn cynnwys ystod o siaradwyr gwadd yn rhannu eu profiadau, mewnwelediadau a'u safbwyntiau ar gefnogi cynhwysiant LHDT+.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 20fed Mai ar Microsoft Teams o 12yp – 1yp i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr o Stonewall Cymru, MicroRainbow i Glitter Cymru i drafod pam mae'r diwrnod hwn mor bwysig a'r camau y gallwn i gyd eu cymryd i gefnogi pobl LHDTC+.

Cyfarfod Microsoft Teams

I ymuno - cliciwch yma.

Rhif y cyfarfod: 330 257 328 112 072

Cod cyfrinair: 6KU7kQ6V

Gall y sesiwn hyn gael ei recordio.

Mae tri siaradwr ar gyfer y digwyddiad:

  • Shannon o Stonewall Cymru

  • Alisha o Glitter Cymru

  • Moud o Micro Rainbow

Mis Balchder

Ni fydd prinder cyfleoedd i gymryd rhan ym mis Balchder unwaith eto eleni ym mis Mehefin — gan gynnwys penwythnos Pride Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd cyfarfod Brecwast Pride Cymru yn llyfrgell Canolog Caerdydd ar 13/06/26 rhwng 9yb — 10:30yb.

Mae'n ddigwyddiad agored lle gall pobl ymuno i gael coffi/byrbrydau cyn mynd draw i'r orymdaith am 10:30yb.

GLAM

Mae GLAM yn rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol i gydweithwyr LHDTC+ yn y gweithle.

Nod GLAM yw codi ymwybyddiaeth gyffredinol a gwelededd o'i waith ac mae'n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i bawb.

I ddysgu mwy am GLAM neu i gael gwybod sut i gymryd rhan - cliciwch yma.