Staffnet+ >
Diwrnod Rhuban Gwyn 2026: Mae'n Cymryd Pob Un Ohonom
Diwrnod Rhuban Gwyn 2026: Mae'n Cymryd Pob Un Ohonom
Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, ac unwaith eto bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi'r ymgyrch gyda gweithgareddau yn annog pobl i ddod at ei gilydd a chymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cyd-fynd â'r Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod ac yn nodi dechrau'r 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar sail Rhyw, sy'n rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 10 Rhagfyr.
Thema'r Rhuban Gwyn eleni yw ‘Mae'n Cymryd Pob Un Ohonom’, gan dynnu sylw at y rhan y gallwn ni i gyd ei chwarae wrth greu cymunedau lle mae menywod a merched yn ddiogel, yn gyfartal ac yn cael eu parchu.
Mae'r ymgyrch yn gofyn i ni beidio â diystyru rhywiaeth fel “jyst jôc” neu “banter”, ond i herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol pan fyddwn yn dod ar eu traws. Gallai hyn olygu siarad pan fydd sylw yn mynd yn rhy bell, herio cynnwys rhywiol neu ddechrau sgwrs yn syml am pam nad yw rhai ymddygiadau yn dderbyniol.
Mae'r neges ar gyfer 2026 yn syml: os nad oes neb yn ei herio, does dim byd yn newid. Mae'n cymryd pob un ohonom.
Rydym yn cefnogi Rhuban Gwyn a'r 16 Diwrnod Gweithrediaeth ehangach, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i atal trais yn erbyn menywod a merched a hyrwyddo cydraddoldeb, parch a pherthnasoedd iach ar draws ein cymunedau.
Drwy gydol yr 16 Diwrnod, bydd cyfleoedd i gydweithwyr, partneriaid a chymunedau ledled Bro Morgannwg a Chaerdydd gymryd rhan, codi ymwybyddiaeth a dangos eu cefnogaeth.
Bydd gweithgareddau'n cynnwys digwyddiadau, cerdded milltir yn ei hesgidiau hi, gweithdai a gweminarau yn darparu cyfleoedd i ddysgu mwy am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), myfyrio ar y rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae wrth ei atal, ac ystyried sut y gallwn herio agweddau ac ymddygiadau sy'n cyfrannu at drais yn erbyn menywod a merched yn ddiogel.
Gallwch glicio yma i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau sy'n digwydd dros yr wythnosau nesaf.
Mae gan bawb ran i'w chwarae. Unai drwy herio rhywiaeth, cael sgyrsiau gyda ffrindiau a chydweithwyr, cefnogi gweithgareddau Rhuban Gwyn neu wneud ymrwymiad personol i newid cadarnhaol, mae'n cymryd pob un ohonom i helpu i greu cymunedau mwy diogel a mwy cyfartal.