Staffnet+ >
Cerddwch Filltir yn ei Hesgidiau Hi
Cerddwch Filltir yn ei Hesgidiau Hi
Ymunwch â ni ym Mhromenâd Ynys y Barri ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026, rhwng 10yb a 12yp, ar gyfer ein digwyddiad Cerddwch Filltir yn ei Hesgidiau Hi.
Mae'r digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn gwahodd cydweithwyr i ddod at ei gilydd am dro i ddangos eu cefnogaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, tra'n helpu i sbarduno sgyrsiau, herio agweddau a hyrwyddo cymuned fwy diogel a chyfartal.
Mae'r llwybr yn un filltir o hyd, ac mae croeso i ddynion sy'n cymryd rhan wisgo esgidiau menywod neu eu hunain os dymunant.
Am gymryd rhan?
Mae parau o esgidiau menywod ar gael i'w benthyca, ond mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly mae archebu lle yn hanfodol.
Archebwch ymlaen llaw i sicrhau eich lle ac, os oes angen, pâr o sodlau.
Os hoffech gymryd rhan, gallwch lenwi'r ffurflen yma.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!